Pnawn o gerddoriaeth Electronig gan y DJ a Cynhyrchydd ifanc 

Hawlio tocynnau yma: EFAN ELECTRO ArDAWNSosgfa / Pictures at an ExhiBEATion Tickets, Fri, Feb 20, 2026 at 2:00 PM | Eventbrite

DJ a cynhyrchydd ifanc talentog lleol o Bethesda ydi Efan Electro, sydd wedi creu cryn gynnwrf hefo ei sengl cyntaf Dyheadau . Camp enfawr i ddisgybl 10 oed. Darganfodwŷd ei diddordeb mewn cerddoriaeth electronig pan roedd Efan yn saith oed a mae wedi bod yn perfformio ac ymarfer yn ddi stop a wedi creu enw ym myd adloniant a cael rhannu llwyfannau hefo DJs adnabyddus fel Judge Jules.

Gweledigaeth Efan ydi fod cerddoriaeth yn cadw’r iaith Gymraeg yn fyw i genedlaethau ifanc ai gyflwyno i gynulleidfaoedd newydd drwy chwarae ei gerddoriaeth mewn clybiau a cael ei ffrydio. Mae can Dyheadau yn unigryw gan fod wedi greu tra bod yn mynychu ysgol gynradd a hefyd fod yr iaith Gymraeg yn ganolog i’r cynhyrchiad a cyfansoddiad. Bydd Perfformiad Efan ArDAWNSosgfa yn gyfle gwych i weld talent lleol cyffroes yn ymateb i Gelf Agored amgueddfa Storiel.