Ymunwch a ni yn Storiel am Weithdy Celf Wyllt hwyl ar lawnt Storiel gyda’r artist talentog Elen Williams. Bydd y gweithdai yma yn apelio at blant 5 i 11
Am ddim
Archebu yma:
Ymunwch a ni yn Storiel am Weithdy Celf Wyllt hwyl ar lawnt Storiel gyda’r artist talentog Elen Williams. Bydd y gweithdai yma yn apelio at blant 5 i 11
Am ddim
Archebu yma:
COFIO: Ffotograffiaeth gan Rhodri Jones, gyda chelf ac archifau sy'n dathlu bywyd a gwaith John Ellis Jones (1929-2023), Darlithydd Clasuron a chyn guradur anrhydeddus yr amgueddfa. "Does dim poen mor fawr â'r cof am lawenydd yn y galar presennol" Aeschylus Ffocws yr arddangosfa yw detholiad o ffotograffau gan Rhodri Jones sydd yn llyfr COFION. Maen nhw'n ffotograffau teimladwy, llawer o'i dad John Ellis Jones, yn dilyn marwolaeth ei fam, Renée, ac wrth iddo ddatblygu dementia. Mae'r llyfr hefyd yn cynnwys traethodau byrion gan Angharad Price a Manon Steffan Ros, yn ogystal â cherddi dethol sy'n archwilio colled a galar. Mae'r llyfr yn archwiliad o alar sy'n bersonol ac yn gyffredinol gan ddod ag ymatebion gwahanol ynghyd sy'n troi galar yn sgwrs.
"Yr arddangosfa fechan hon o baentiadau bywyd llonydd yw fy ymateb i rai o’r darnau serameg yng nghasgliad Storiel a Phrifysgol Bangor. Mae'r gwrthrychau tŷ pob dydd hyn a wnaed gan mlynedd neu ddau gan mlynedd yn ôl yn sôn am fywyd – y bobl a greodd batrymau a dyluniadau bywiog y jygiau, mygiau, platiau a phowlenni hyn, a’r bobl oedd yn berchen arnynt ac yn eu defnyddio."
Arddangosfa o ffolio, paentiadau a printiau sy’n archwilio Coedwigoedd Glaw Celtaidd Gogledd Cymru a Choedwig yr Is-Antarctig, De Chile.