Mae BLAS, Pontio yn cyflwyno project arbennig sy’n cofnodi cymuned arbennig Hirael gyda chefnogaeth Storiel. Mae Gwion Aled Williams a’r ffotograffydd Iolo Penri wedi bod yn ymweld â Hirael sawl gwaith dros gyfnod o flwyddyn gan gael cipolwg o’r gymuned a’r unigolion sy’n byw yno. Bydd nawr cyfle i weld ffrwyth y gwaith o gofnodi cymuned Hirael mewn arddangosfa arbennig yn Storiel.

Mae’r gwaith yn tynnu ysbrydoliaeth o lyfrau Sibols: Plentyndod Hirael 1900-1930 a Hirael, North Wales 1976 gan Garry Stuart sydd wedi cofnodi lluniau o Hirael o ddechrau’r ugeinfed ganrif a’r 1970au.   Mae Gwion Aled Williams a’r ffotograffydd Iolo Penri wedi bod yn ymweld â Hirael sawl gwaith dros gyfnod o flwyddyn gan gael cipolwg o’r gymuned a’r unigolion sy’n byw yno. Mae Gwion wedi cyfweld gwahanol unigolion a chymeriadau yn Hirael dros y flwyddyn ddiwethaf, ac mae wedi creu ffilm fer o’r cyfweliadau gan gofnodi eu hatgofion a phrofiadau personol o fyw – rhai wedi byw yno erioed – yn Hirael.  Bydd ffotograffau Iolo Penri sy’n gofnod o rhai o gymeriadau a llefydd arbennig cymuned Hirael, ynghyd a’r ffilm a ffotograffau o’r archif.  Gyda’i gilydd, mae’r arddangosfa yn dod a chymuned unigryw Hirael yn fyw.

Efallai byddai gennych ddiddordeb yn

Arddangosfa Gelf

Prifysgol Bangor: 140 mlynedd o Gasglu Celf

01 February - 29 March 2025

Yn ôl erthygl a gyhoeddwyd gan y ‘Times Higher Education’ yn 2005, mae casgliad celf Prifysgol Bangor ymhlith y deg casgliad celf gorau yn y Brifysgol yn y DU. Mae'r casgliad celf yn cynnwys tua 650 o weithiau, sy'n dyddio o'r 17eg i'r 21ain ganrif, yn ased artistig a diwylliannol pwysig i'r Brifysgol ac i ogledd Cymru gyfan. Mae'r arddangosfa hon yn dathlu pen-blwydd y Brifysgol a'i chelf drwy arddangos uchafbwyntiau o'r casgliad.

Arddangosfa Gelf

Tu Ôl i’r Llenni

08 February - 22 March 2025

Mae ‘Tu Ôl i’r Llenni’ yn brosiect trwy’r rhwydwaith CELF (Casgliad Celf Gyfoes Cymru) a Celf ar y Cyd. Gwefan yw Celf ar y Cyd sy’n rhoi cyfle i bawb bori, dysgu a chael ysbrydoliaeth gan filoedd o weithiau celf gyfoes o gasgliad Amgueddfa Cymru. Bwriad y prosiect oedd peilota sut gall ysgolion cael mynediad gwell i’n casgliadau cenedlaethol – a sut gall orielau sy’n rhan o rhwydwaith CELF helpu hwyluso hynny. Un model o weithio sydd yma. Mae Storiel a Plas Glyn y Weddw wedi gweithio gyda dwy ysgol gynradd; Ysgol Garnedd (Bangor) ac Ysgol Cymerau (Pwllheli), yr artist Luned Rhys Parri ac Amgueddfa Cymru i gyflawni’r gwaith.