I cyd fynd hefo arddangosfa Bert Isaac bydd perfformiad unigryw yng nghwmni tri o gerddorion mwyaf cyffroes sin Jaz Cymru yn gwneud perfformiad yn Storiel, Amgueddfa Gwynedd ar pnawn Sadwrn yr 20fed o Fedi . Bydd y triawd yma yn cynnwys y baswr Huw Vaughan Williams , Y drymiwr Gruff Elidir Owen ar Trwmpedwr Emyr Penry Dance fydd hefyd yn cyfrannu barddoniaeth newydd i’r cyngerdd Holl Tri’r Llechen . 

ARCHEBWCH YMA

Mwy am y Cerddorion

Emyr Penry Dance (Trwmped / Barddoniaeth)

Fel aelod canolig i’r band jazz gwerin Awen Ensemble, mae Emyr Penry Dance wedi sefydlu ei hyn fel cerddor syn gweddu y byd o farddoniaeth a cerdd yn ddidrafferth . Hefo’r album diweddaraf Cadair Idris(2024) wedi derbyn cryn clod mae cyfle i glywed Emyr yn ymateb yn farddonol i waith tirweddau Eryri Bert Isaac a clywed ei chwarae trwmped hudolus.

Huw Vaughan Williams (Bas Dwbl)

Yn wreiddiol o Fangor. Mae’r chwaraewr bas dwbl / basgrwth Huw V Williams, yn cael ei adnabod fel un o’r cerddorion mwyaf cyffrous ac unigryw Jazz Prydeinig ar hyn o bryd. Mae Huw wedi bod yn gysylltiedig â cherddorion o safon fyd-eang yn y maes jazz a cherddoriaeth arbrofol, gan gynnwys Jim Black, Huw Warren, Jeff Williams, Laura Jurd ac Ivo Neame. Yn ogystal mae hefyd yn chwarae yn y byd roc cyfoes gan fod yn band teithiol Gruff Rhys (Super Furry Animals) a Kliph Scurlock (gyn aelod o’r Flaming Lips ).

Gruff Elidir Owen (Drumiau / Offerynnau Taro)

Yn wreiddiol o Garndolbenmaen ac eisoes yn creu tonnau yn sin cerddoriaeth Caerdydd, mae Gruff Elidir Owen yn prysur wneud enw i’w hyn fel offerynnydd cyffroes sydd wedi cyfrannu ar ganeuon nifer o gerddorion amlwg sin roc Cymreig a wedi derbyn adolygiadau hynod ffafriol fel rhan or band Jazz arbrofol o Gaerdydd, Care Crow .

Ariannwyd y digwyddiad yma gan gronfa Cyfuno , gyda chymorth gan gronfa Lle Chi Lle Ni