Cerddoriaeth amgen wedi ei gyflwyno gan LLiFT
Mae LLiFT yn falch o gyflwyno perfformiad newydd mewn cyfres barhaus o sesiynau cerddoriaeth arloesol ac arbrofol. Bydd y sesiwn yma yn cynnwys cerddoriaeth heriol ag amgen gan y basydd, Si Paton a’r ddeuawd gitâr arbrofol , David Birchall a Steve Malley.
Si Paton
Mae Simon Paton yn gyfansoddwr, basydd, ymchwilydd a churadur digwyddiadau sy’n byw yn Birmingham. Wedi graddio o Brifysgol Gorllewin Llundain lle astudiodd gitâr bas a chyfansoddi jazz, ffurfiodd Selectric – grŵp prog-jazz a ryddhaodd ddau EP poblogaidd ac a deithiodd yn aml. Ers hynny, mae wedi bod yn ymwneud yn weithredol â chylchoedd cerddoriaeth fyrfyfyr rhydd, roc arbrofol a cherddoriaeth newydd gyfoes, gan gynnwys chwarae yn Apocalypse Jazz Unit.
David Birchall a Steve Malley
Mae David Birchall a Steve Malley yn ddeuawd gitâr arbrofol sy’n chwarae cerddoriaeth amgylchynol, drôn, a byrfyfyr rhydd.
Mae David Birchall yn byw ym Manceinion. Mae wedi chwarae cerddoriaeth fyrfyfyr ledled Ewrop ac mae ei waith wedi cael ei ddarlledu ar BBC Radio 1, BBC Radio 3, BBC Radio 6 Music a SWR yn yr Almaen. Mae’n trefnu ac yn cyd-guradu’r gyfres, Curious Ear ar gyfer cerddoriaeth fyrfyfyr ym Manceinion.
Mae Steve Malley yn fwyaf adnabyddus fel grym gyriadol y triawd pŵer, The Unit Ama. Mae gwaith unigol Malley yn cynnwys chwarae gitâr hydolus a chlyfar sy’n atgoffa rhywun o adfywiadwyr gwerin y 60au fel Bert Jansch a Davey Graham ond wedi’i drwytho ag etifeddiaeth hen fandiau gitâr New Wave ac ôl-roc yr 80au cynnar.
LLiFT : SI PATON , David Birchall & Steve Malley Tickets, Sat, Feb 28, 2026 at 7:00 PM | Eventbrite