SESIYNAU STORIEL #8

Mae’n bleser a braint cael croesawu Malgola No! (yn sicr un o berfformwyr mwyaf cyffrous Cymru) i Storiel i ddarparu prynhawn o gerddoriaeth i gyd fynd â arddangosfa Michal Iwanowski Go Home Polish!

Mae Malgola, No! yn gantores a chynhyrchydd pop celfyddydol o Wlad Pwyl, oedd yn cael ei dylanwadu gan gerddoriaeth y Super Furry Animals, a daeth ei chariad hi am gerddoriaeth Cymraeg â hi i Gymru yn 2017.

Fel cyfansoddiadau’n annibynnol iawn Malgola No yn gwrthod cymariaethau, gan gyfuno pob arddull o gerddoriaeth gyda egni amgen eang sy’n gwneud pob perfformiad yn bleser i’w wylio. Mae perfformiadau bywiog Malgola, No! wedi ennill cryn dipyn o ganmoliaeth trwy berfformiadau yn FOCUS Wales a Gŵyl Sŵn, Caerdydd.

Yn ddiweddar mae Malgola, No! wedi bod yn cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer ffilmiau. Mae ei gwaith mwyaf nodedig yn cynnwys ‘Chatka’ (‘Y Bwthyn’) gan y cyfarwyddwr Pwylaidd Bartosz Toboła a dosbarthwyd gan Canal+, a ‘Test’ (‘Y Profion’), a enillodd ac a gafodd ei enwebu mewn sawl gŵyl ryngwladol, gan gynnwys enwebiad am y sain gwreiddiol orau yn ShortCut Cinefest yn Bucharest yn 2021.

Archebwch le yma!

Efallai byddai gennych ddiddordeb yn

Digwyddiad

Lansiad Llyfr: Nathan Abrams

13 June 2026

Ymunwch â'r Athro Nathan Abrams (Prifysgol Bangor) ar gyfer lansiad ei lyfr newydd, Jews in the Welsh Imagination: From Medieval Times to the Present. Mae'r llyfr newydd arloesol hwn yn datgelu sut mae Cymru wedi dychmygu, cynrychioli, a ymgysylltu â'r Iddewon ac Iddewiaeth dros fwy na wyth canrif. O farddoniaeth canoloesol a brwdfrydedd cenhadol cynhenid i geo­wleidyddiaeth y unfed ganrif ar bymtheg a dadleuon cyfoes am hunaniaeth a chenedlaetholdeb, mae Abrams yn datgelu edafedd gyfrinachol ond pwerus sy'n rhedeg trwy hanes diwylliannol Cymru. Gan herio rhagdybiaethau ac agor sgwrs newydd, dyma gyfrif newydd sylweddol am berthynas gymhleth Cymru ac Iddewiaeth.