Mae’r pedwarawd ddwyieithog o Sheffied wedi bod yn plethu hanesion ffeministaidd a chwedlau ers eu sefydliad yn 2018. Mae setiau dwyieithog bywiog yn cymysgu harmonïau swynol gyda cherddoriaeth seicadelig a gwerin asid arbrofol.

Cafodd eu halbwm cyntaf Y Gawres ei enwebu am Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2023 tra bod eu cân mwyaf diweddar Yn Canu wedi cael cryn dipyn o ddiddordeb gan y cyfryngau Cymraeg a Saesneg tra bod Malady wedi dod yn anthem gwyliau cerddorol amgen dros yr haf.

Bydd hwn yn gyfle i weld un o fandiau mwyaf cyffroes y sîn ac i glywed rhai o ganeuon oddi ar eu hail albwm hir ddisgwyliedig.

Archebu lle yma!