Mae yn fraint cael gwahodd yr artist Michal Iwanowski i Storiel i drafod ei yrfa ai arddangosfa deithiol Go Home, Polish!
Yn enedigol o Wlad Pwyl a erbyn hyn wedi ymgartrefu yn ninas Caerdydd mae gwaith Michal Iwanowski yn daith mewn mwy nac un ystyr. Yn 2008 daeth Michal ar draws graffiti ger ei gartref yn dweud ‘Go Home, Polish’.
Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, yng nghanol dilyniant Brexit ac Ewrop ranedig, ymgymerodd â thaith anhygoel dros 1900km ar droed rhwng Cymru a’i bentref enedigol, Mokrzeszów yng Ngwlad Pwyl. Aeth y daith drwy Cymru, Lloegr, Ffrainc, Gwlad Belg, yr Iseldiroedd, yr Almaen ar Weriniaeth Czech. Prif nod y daith oedd archwilio a deall y syniad o ‘gartref’. Cymerodd y daith 105 diwrnod i’w chwblhau, a thrwy hynny fe bostiodd ddyddiadur o’i brofiadau a’i gyfarfyddiadau ar Instagram.
Ddeng mlynedd ers refferendwm Brexit, mae’n teimlo’n amserol arddangos gwaith Michal yma yn Storiel.
Mae’r arddangosfa a sgwrs wedi bod yn bosibl drwy CELF – menter genedlaethol i sicrhau fod casgliadau cenedlaethol i’w gweld ledled Cymru.