Cwsg, y gweithgarwch hanfodol yna y mae ar bawb ei angen. Mae gan Storiel gasgliad hynod ddifyr o wrthrychau sy’n ymwneud â chwsg, nad ydynt i’w gweld efo’i gilydd fel arfer. Bydd yma ddathliad clyd, lliwgar o gwiltiau clytwaith, carthenni traddodiadol, dillad nos, crud, poteli dŵr poeth a hyd yn oed fodel o wely bocs traddodiadol, a wnaed yn y 19eg ganrif. Mae nifer o’r deunyddiau dros gan mlwydd oed, wedi eu gwneud o wlân a lliain a gynhyrchwyd yn lleol.
Efallai byddai gennych ddiddordeb yn
Fiona & Gorwel Owen
19 September 2026Mae'n fraint gwahodd Fiona a Gorwel Owen i Storiel i berfformio caneuon o’u halbwm newydd.
Erin Hughes
04 July - 26 September 2026Mae’r arddangosfa uchelgeisiol hon yn cyflwyno ei harddull ‘collage’ marmor ffug sy’n cynnwys gweithiau 2D ar raddfa fawr a 'collage' llawr sy’n trochi ac yn amgylchynu’r oriel gyfan.
Toria Cameron
04 July - 19 September 2026Mae Toria Cameron yn artist gweledol lle mae ei hymarfer yn pontio crefft tecstilau cyfoes a chelf gain. Wedi'i hysbrydoli gan dirwedd Cymru, mae'n archwilio syniadau am le, perthyn a chynefin - y cysylltiad dwfn rhwng pobl a'u hamgylchedd.