Rydym yn falch o gyhoeddi y bod Storiel, Amgueddfa Gwynedd mewn partneriaeth gyda Cyngor Dinas Bangor, MSparc, Y Pethau Bychain, EECO ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn cyd gweithio i ddarparu gweithgareddau am ddim ar ddydd Mawrth Mai y 27ain i baratoi ar gyfer The Herds yn cyrraedd y Deyrnas Unedig ddiwedd mis Mehefin. 

Mae The Herds yn briosect uchelgeisiol syn plethu celf cyhoeddus a gweithredu hinsawdd ar raddfa ddigynsail ai gyflwyno mewn ffordd unigryw. Rhwng Ebrill ac Awst 2025, bydd buchesi cynyddol o anifeiliad pyped maint bywyd yn ymdrin â dinasoedd ledled Affrica ac Ewrop i ffoi rhag trychineb hinsawdd mewn gwaith celf cyhoeddus ar raddfa na geisiwyd erioed o’r blaen. Bydd miliynau o bobl yn dilyn The Herds ar-lein trwy’r cyfryngau cymdeithasol, ac yn cymryd rhan mewn digwyddiadau a pherfformiadau arbennig yn bersonol ar hyd y llwybr 20,000km, o ganol y Congo i Gylch yr Arctig.

I cyd-fynd hefo’r digwyddiad yma bydd cyfle i greu pyped morgrugyn gyda technegwyr M Sparc ar artist Elin Alaw yn pabell dathliadau Dinas Bangor ar lawnt Storiel.

Mae’r gweithdy am ddim a croeso cynnes i pawb.

Sesiwn 1 

Sesiwn 2