Swyddi Gwag
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli’n ffordd o gyfnewid sgiliau heb i arian newid dwylo. Yn gyfnewid am eich amser, cewch gyfle i adeiladau ar y sgiliau sydd gennych ac i feithrin rhai newydd!
Mae pobl yn gwirfoddoli am lawer o resymau – i wneud ffrindiau newydd a sefydlu trefn newydd i’w hamser, i feithrin sgiliau ac ehangu eu profiadau, i sicrhau bod eu CV yn adlewyrchu’r hyn y maent yn dymuno’i wneud, i dalu yn ôl, i ddatblygu diddordebau newydd neu i adfywio hen rai.
Mae gwirfoddoli’n helpu sefydliadau hefyd. Mae’n gyfle i weithleoedd helpu pobl i symud ymlaen, mae’n dod â sgiliau newydd i’r gweithle a gall helpu gweithleoedd i fod yn fwy effeithlon trwy ganiatáu i wirfoddolwyr ganolbwyntio ar feysydd gwaith penodol.
Byddai ar ben ar amgueddfeydd fel Storiel heb gymorth ein gwirfoddolwyr. Ers 2014, mae pobl wedi cyfrannu dros 6,000 o oriau yn wirfoddol! Dyma’r manylion:
“Blaen Tŷ”
Gwirfoddolwyr Profiad Ymwelwyr: Dyma’r prif fath o wirfoddolwyr yn Storiel. Rydym yn dibynnu ar wirfoddolwyr i gyfarch ymwelwyr yn y dderbynfa a’r siop, yn y pwynt gwybodaeth i dwristiaid ac yn yr orielau hanes a chelf. Yn aml, mae ymwelwyr yn gofyn am wybodaeth gyffredinol iawn, a rhywun i wrando ar hanes eu teulu nhw eu hunain – gan ein bod ni’n amgueddfa werin sy’n cyflwyno bywyd yn y sir dros amser, mae hyn yn beth naturiol iawn.
Does dim angen gwybodaeth benodol arnoch i wirfoddoli fel hyn gan fod llawer o’r wybodaeth i’w chael yn yr amgueddfa eisoes! Gallwch feithrin sgiliau cyfathrebu, gwasanaethu cwsmeriaid a chadw amser wrth wirfoddoli fel hyn, yn ogystal â gwneud gwaith ymchwil personol i hanes a chelfyddyd Cymru trwy ddefnyddio’n llyfrgell broffesiynol ni’n hunain.
Weithiau, mae arnom angen cymorth â’n teithiau tywys o gwmpas casgliadau celfyddyd gain a chrochenwaith y brifysgol.
“Y Tu Ôl i’r Llenni”
Rydym hefyd angen cymorth gyda chasgliadau’r Brifysgol. Gall hyn fod o gymorth gyda dogfennaeth, ymchwilio’r casgliadau neu gynorthwyo gyda gweithgareddau megis dyddiau agored a theithiau tywys.
Mae’n ofynnol i gael sgiliau penodol i allu gwirfoddoli gyda rhai o gasgliadau’r Brifysgol. Wrth weithio gyda’r casgliadau sŵoleg a daeareg mae angen cefndir neu rywfaint o wybodaeth yn y meysydd pwnc hyn gan fod angen yr arbenigedd hwn arnom i helpu i nodi a chatalogio sbesimenau a darparu gwybodaeth i’r cyhoedd ar ddiwrnodau agored.
Rydym yn ceisio gwneud yr hyn a wnawn am ddim, heb godi tâl mynediad na thâl am weithgareddau i deuluoedd yn ystod y gwyliau. Mae arnom angen gwirfoddolwyr i’n helpu gyda’r digwyddiadau poblogaidd hyn weithiau ac felly os ydych yn hoff o blant a gwneud crefftau, efallai y byddech yn mwynhau hyn.