Gweithdy Celf cyfrwng cymysg i cyd fynd hefo arddangosfa Bert Isaac

Gweithdy celf a barddoniaeth dan ofal Elin Alaw. Dewch i ddarlunio tamaid bach o hanes bro’r chwareli, a hynny mewn cyfrwng cymysg. Cawn gyfle i drafod ffurf ac ansawdd hen dun bwyd chwarelwr, ac arbrofi wedyn efo golosg a dyfrliw i ddod â bywyd i’n lluniau. Yn olaf, byddwn yn ymgorffori englyn Glan Tecwyn i’n gwaith. Sesiwn dwyawr, addas i blant 8 oed a hŷn, a chroeso i bob rhiant gymryd rhan hefyd – does dim angen profiad blaenorol o greu celf! Niferoedd cyfyngedig felly archebwch eich lle ymlaen llaw.

Awst 12

Awst 15

Efallai byddai gennych ddiddordeb yn

Digwyddiad

Lansiad Llyfr: Nathan Abrams

13 June 2026

Ymunwch â'r Athro Nathan Abrams (Prifysgol Bangor) ar gyfer lansiad ei lyfr newydd, Jews in the Welsh Imagination: From Medieval Times to the Present. Mae'r llyfr newydd arloesol hwn yn datgelu sut mae Cymru wedi dychmygu, cynrychioli, a ymgysylltu â'r Iddewon ac Iddewiaeth dros fwy na wyth canrif. O farddoniaeth canoloesol a brwdfrydedd cenhadol cynhenid i geo­wleidyddiaeth y unfed ganrif ar bymtheg a dadleuon cyfoes am hunaniaeth a chenedlaetholdeb, mae Abrams yn datgelu edafedd gyfrinachol ond pwerus sy'n rhedeg trwy hanes diwylliannol Cymru. Gan herio rhagdybiaethau ac agor sgwrs newydd, dyma gyfrif newydd sylweddol am berthynas gymhleth Cymru ac Iddewiaeth.