Y cyfarwyddwr a scriptiwr Russell Owen yn trafod ei yrfa mewn ffilm a hysbysebu masnachol bydd testyn yr ail siaradwr gwadd yn gyfres o sgyrsiau a drefnwyd gan fyfyrwyr Cwrs Sylfaen Celf Bangor. Ganwyd a magwyd Russell yn sir Conwy, Gogledd Cymru lle cychwynnodd ei ysbrydoliaeth ar cofnodi straeon. Astudiodd ddarlunio a sgriptio ffilm yn UCA ac ar ôl graddio symudodd i Lundain, gan weithio fel cynorthwyydd cynhyrchydd ar y ffilm arswyd An American Haunting gyda’r diweddar Donald Sutherland a Sissy Spacek. Dilynodd hyn gyda gyrfa fel artist ‘storyboard’ a dyluniwr chysyniad, gan weithio ar ail-lansiadau y cyfres deledu Doctor Who a gemau Tomb Raider, cyn dod yn dyluniwr setiau a chyfarwyddwr celf ar gyfer sioeau teledu poblogaidd yn y DU. Wedi gweithio i gwmnïau cyfryngol fel Nickelodeon, ITV, BBC a Channel 4, cyfarwyddodd Russell ei ffilm fer gyntaf Anglesey Road yn 2010, a enillodd nifer o wobrau ac a nododd dechrau gyrfa ysgrifennu/cyfarwyddo amser llawn.

Rhwng cyfarwyddo ffilmiau mae Russell wedi gwneud cannoedd o hysbysebion teledu i frandiau amlwg fel American Express, Armani, L’Oreal, Specsavers a Diageo. Mlith y gwaith masnachol yma cyfarwyddodd Love In The Asylum, ffilm fer seiliedig ar gerdd Dylan Thomas o’r un enw gyda’r actores Gaia Weiss yn y brif ran. Mae ei ffilm, ‘Shepherd’, wedi’i derbyn clod aruthrol dangos am y tro cyntaf yn ŵyl ffilmiau BFI Llundain 2021 ac yn cael canmoliaeth feirniadol o nifer o cylchgronau a cyfryngau (Dewis Beirniaid New York Times, Ffilm yr Wythnos gan Mark Kermode BBC) ar ôl ei arddangosiad yn y sinema, roedd wedi ffeindio gynulleidfa newydd ar wasanaethau ffrydio hefo Shepherd yn dod ir frig ar rhestr iTunes yn y ffilmiau arswyd annibynnol. Sêr y ffilm oedd Tom Hughes, Kate Dickie, Gaia Weiss a Greta Scacchi.

Archebwch tocynnau YMA

Efallai byddai gennych ddiddordeb yn

Digwyddiad

Lansiad Llyfr: Nathan Abrams

13 June 2026

Ymunwch â'r Athro Nathan Abrams (Prifysgol Bangor) ar gyfer lansiad ei lyfr newydd, Jews in the Welsh Imagination: From Medieval Times to the Present. Mae'r llyfr newydd arloesol hwn yn datgelu sut mae Cymru wedi dychmygu, cynrychioli, a ymgysylltu â'r Iddewon ac Iddewiaeth dros fwy na wyth canrif. O farddoniaeth canoloesol a brwdfrydedd cenhadol cynhenid i geo­wleidyddiaeth y unfed ganrif ar bymtheg a dadleuon cyfoes am hunaniaeth a chenedlaetholdeb, mae Abrams yn datgelu edafedd gyfrinachol ond pwerus sy'n rhedeg trwy hanes diwylliannol Cymru. Gan herio rhagdybiaethau ac agor sgwrs newydd, dyma gyfrif newydd sylweddol am berthynas gymhleth Cymru ac Iddewiaeth.