Mae Prosiect Hanes Pobl Ddu mewn Lliw gan Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhanbarthol Gogledd Cymru (NWREN) mewn cydweithrediad ag ysgolion lleol yn archwilio a dathlu’n greadigol straeon llai adnabyddus pobl Ddu sydd wedi byw yn ein cymunedau lleol. Adeiladodd y fenter hon ar brosiect blaenorol gan Archifau Conwy, a oedd yn ailddehongli hanes Sefydliad Affricanaidd Bae Colwyn yn ddychmygus.
Neilltuodd Mfikela un diwrnod i bob ysgol sy’n cymryd rhan yn cynnwys gweithdy celf, sesiynau adrodd straeon, a chreu gwaith celf gorffenedig. Mae’r gweithiau celf hyn yn arddangos portreadau, gweithgareddau, dylanwadau a tharddiad pobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig sydd wedi cyfrannu’n sylweddol at y cynnydd cymdeithasol, gwleidyddol, diwylliannol neu economaidd yng ngogledd Cymru.
Roeddem yn gallu gweithio gyda’r 7 ysgol, trwy Ogledd Orllewin Cymru, 2 o Wynedd, 2 o Ynys Môn, 2 o Gonwy ac 1 o Sir Y Fflint. Cyflwynwyd y syniadau creadigol yn unol â Chynllun Gweithredu Gwrth-hiliol Llywodraeth Cymru. Yn yr holl sesiynau cynorthwywyd Mfikela gan athrawon a chynorthwywyr dosbarth neu bwnc. Mae’r cydweithio a’r ymateb gan y plant a’r athrawon wedi bod yn ddiddorol.
Yr ysgolion a elwodd o’r prosiect hwn oedd:
Gwynedd – Ysgol Friars ac Ysgol Penisarwaen
Conwy – Ysgol John Bright ac Ysgol Porth y Felin.
Ynys Môn – Ysgol Uwchradd Bodedern ac Ysgol Gynradd Tywyn.
Sir Y Fflint – Ysgol Gwenffrwd, Treffynnon.
O’r cydweithio, cyfranogiad ac adborth gan athrawon a phlant ysgol, rydym yn sicr bod ein dymuniad i ddefnyddio’r prosiect hwn fel offeryn gwrth-hiliaeth wedi’i gyflawni, a thrwy hynny gydymffurfio â Chynllun Gwrth-Hiliol a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, Llywodraeth Cymru. Mae gweithio gyda Mfikela Jean Samuel wedi rhoi cyfle i’r plant weithio gydag artist rhagorol a model rôl cadarnhaol, gan helpu i chwalu mythau a rhagfarnau sy’n ymwneud â mewnfudo, ceiswyr lloches a ffoaduriaid.