Mae’n fraint gwahodd yr artist Erin Hughes i wneud gweithdy fydd yn arddangos rhai o’r technegau mae hi wedi eu defnyddio yn ei arddangosfa diweddar Lloriog/Gwallus sydd yn arddangos tan Medi 26 yn Storiel .

Yn y gweithdy yma bydd Erin yn dangos technegau niferus i greu dyluniadau trawiadol drwy techneg marmori (marbling) a trawsnewid rhain trwy technegau gludwaith. Mae marmori papur yn ddull o ddylunio arwyneb dyfrllyd, a all gynhyrchu patrymau tebyg i farmor llyfn neu fathau eraill o gerrig . Mae’r patrymau yn ganlyniad i liw sy’n arnofio ar naill ai dŵr plaen neu hydoddiant gludiog o’r enw maint (sizing) ac yna wedi’i drosglwyddo’n ofalus i arwyneb amsugnol, fel papur neu ffabrig neu hyd yn oed croen i greu dyluniadau lliwgar syn dal y llygad . Bydd y Gweithdy yma yn gyfle gwych i ddefnyddio gyfundrefn o dechnegau i greu gwaith trawiadol.

Gweithgaredd hwyl addysgol ir teulu ydi hwn ac i blant 8+. Mae gofyn i bob plentyn sy’n mynychu ei oruchwylio gan riant neu ofalwr.

Cliciwch YMA ar gyfer sesiwn 11yb

Cliciwch YMA ar gyfer sesiwn 2yh