Agweddau’r Rhufeiniaid at Rywedd?

Fe wnaeth agweddau’r Rhufeiniaid a’r Groegwyr tuag at rywedd ddylanwadu ar wareiddiadau mwy diweddar.  

Roedd y gymdeithas Rufeinig yn batriarchaidd, a dynion cryf, gwrol, awdurdodol oedd yn ennyn y parch mwyaf. (Vir: y gair Rhufeinig am ddyn) Mae alffa-wrywod wedi eu disgrifio fel ‘treiddwyr anrheiddiadwy’ (impenetrable penetrators) – nid oedd yn cael ei ystyried yn annerbyniol i ddynion gael perthnasau rhywiol a dynion eraill a bechgyn, er mai’r unigolyn oedd yn dominyddu yn gymdeithasol a gwleidyddol oedd y ‘treiddiwr’ bob amser.  Roedd cyfraith Rhufain yn cyfeirio at rywedd person fel gwryw, benyw neu ddeuryw, gyda’u hawliau cyfreithiol fel gwryw neu fenyw yn ddibynnol ar y nodweddion a ymddangosai yn fwyaf amlwg.   

Roedd cymdeithas Roegaidd hefyd wedi ei dominyddu gan ddynion; byddid yn cadw merched o lygad y cyhoedd, a phrin y byddent yn derbyn addysg. Yr eithriad i hyn oedd Sparta, lle roedd menywod yn cael llawer mwy o ryddid ac yn derbyn addysg. Byddai bechgyn yn cael eu hyfforddi i ddod yn filwyr, ac, i baratoi at ymgyrchoedd milwrol, yn derbyn dognau ‘Spartaidd’ o fwyd – yn wahanol i’w chwiorydd, a oedd yn cael mwy o fwyd. Tra bod y boblogaeth wrywaidd i ffwrdd yn ymladd, disgwylid i ferched gynnal y gymdeithas gartref.