Amser newid!

Blwyddyn newydd, arddangosfeydd newydd! Mae’n amser i newid yr arddangosfeydd yn Storiel, felly mae dwy o’n horielau ar gau dros dro. Ond peidiwch â phoeni, mae ein harddangosfa gyfareddol, ‘Button it up’ yn dal i gael ei harddangos i ymwelwyr, ac mae’r holl orielau hanes, siop a chaffi ar agor fel arfer. . Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at yr arddangosfeydd newydd, ‘Dathlu 50 mlynedd o Sain’ yn agor ar Ionawr 11eg, ac yna ‘Welsh Not’, rhan 2 o waith Paul Davies, sy’n agor ar Ionawr 25ain.