Cyfarfod â’r Tîm- Glain Meleri

Enw: Glain Meleri

Swydd: Cymhorthydd Safle

Prif ddyletswyddau eich rôl yn storiel: Ma’ fy nyletswyddau yn cynnwys agor a chau’r adeilad, paratoi ar gyfer digwyddiadau yn ogystal ag unrhyw dasgau dydd i ddydd yn Storiel.

Ers pryd ydych chi wedi gweithio yn storiel? Dechreuais weithio yn Storiel ym mis Ebrill 2022. 

Beth yw’r peth gorau am eich rôl yn storiel?

Y peth gorau i mi am fy rôl yn Storiel ydi pa mor amrywiol a ddiddorol ydi’r gwaith. Mae gweithio mewn adeilad sy’n cynnwys gymaint o hanes a chelf, gyda thîm o bobl sydd mor frwdfrydig yn gymaint o hwyl!

Be gallech chi gael un archpwer beth fyddai hwnnw?

Fyswn i’n dewis gallu hedfan dwi’n meddwl! Fysa fo’n grêt gallu osgoi’r traffig yng nghanol Bangor a gorfod parcio yn y maes parcio lleia’ erioed!

Beth yw eich hoff ffordd o ymlacio y tu allan i’r gwaith?

Tu allan i’r gwaith dwi’n licio mynd allan efo ffrindiau, coginio a mynd i’r sinema.