Cyfarfod â’r Tîm – Gruff Edwards

Enw  : Gruff Edwards

Swydd : Cymhorthydd Safle Storiel achlysurol / Uwch cymhorthydd safle Amgueddfa Lloyd George

Prif ddyletswyddau eich rôl yn Storiel : Fel arfer fyswn i’n helpu allan hefo rhedeg dydd i dydd yr amgueddfa, paratoi ystafelloedd cyfarfod, bancio pres, glanhau a pethe felly

Ers pryd ydych chi wedi gweithio yn Storiel? Dwi wedi bod yma ers jyst dros 4 mlynedd rŵan

Pe gallech chi gael un archpŵer (superpower), beth fyddai hwnnw? Dwi’n meddwl fyse cael y gallu i hedfan yn archpwer reit dda!

Beth yw eich hoff eitem yng nghasgliad Storiel a pam? Fy hoff eitemau yng nghasgliad Storiel ar y funud ydi’r arddangosfa celf agored mae’n siŵr

Beth yw eich hoff ffordd o ymlacio y tu allan i’r gwaith? Yn hoffi mynd am dro i llefydd, a gwylio teledu!