Cyfarfod â’r Tîm – Nêst Thomas

Enw : Nêst Thomas

Swydd : Rheolwr Amgueddfeydd a’r Celfyddydau

Prif ddyletswyddau eich rôl yn Storiel :

Arwain y Gwasanaeth Amgueddfeydd a’r Celfyddydau yn cynnwys  Storiel, Amgueddfa Lloyd George, Celfyddydau Cymunedol a Chelfyddydau Gweledol  i gyflawni’r hyn sy’n bwysig i bobl Gwynedd

Ers pryd ydych chi wedi gweithio yn Storiel?

Dwi’n gweithio i Gyngor Gwynedd ers 1986 pan nes i gychwyn fel Swyddog Amgueddfeydd tan hyfforddiant. Roeddwn yn gweithio fel Swyddog Amgueddfeydd ac Orielau yn y  1990’au pan benderfynodd y Cyngor i redeg yr amgueddfa ym Mangor sydd bellach yn Storiel.

Beth yw’r peth gorau am eich rôl yn Storiel? –

Cael gweithio efo tîm gwych.

Gwneud yn siŵr bod arteffactau ein cymunedau yn cael eu gofalu amdanynt a’u rannu ar gyfer bobl heddiw ac rhai yn y dyfodol. Rhoi cyfle gwych i artistiaid a chrefftwyr. Hefyd llawer o be da ni yn eu trefnu yn cyfrannu at lesiant, yr economi ac addysg – a heb anghofio cyfle i bobl fwynhau eu hunain.

Beth yw eich hoff eitem yng nghasgliad Storiel a pam?

Y “Welsh Not” sy’n enghraifft brin o rywbeth syml, sef darn o bren efo llythrennau wedi ei gerfio arno, ond sydd yn symbolaidd iawn.  Roedd yn cael ei ddefnyddio i geisio atal rhai rhag siarad Cymraeg yn yr ysgolion ac mae enghreifftiau tebyg mewn gwledydd eraill yn y byd fel Llydaw a Hawaii.

Beth yw eich hoff ffordd o ymlacio y tu allan i’r gwaith?

Wrth fy modd yn darllen ffuglen a gwylio hen ffilmiau du a gwyn fel “Rebecca” ( llyfr Daphne du Maurier a’r ffilm gan Hitchcock). Pan mae’n bosib dwi’n hoffi mynd i gigs, treulio amser efo’r teulu  a chrwydro’r byd.