Cyfarfod â’r Tîm – Ceri Dalton

Enw : Ceri

Swydd : Cymhorthydd Safle Storiel

Prif ddyletswyddau eich rôl yn Storiel :

Yn fyr….I neud siŵr mae Storiel yn rhedeg yn ddidrafferth!

Cynnwys cymysg o bethau o fod ar y derbynfa, yn y siop, checio’r adeilad, rhoi pethau ar y cyfryngau cymdeithasol. Hefo rôl cyffrous ar y funud sef edrych i fewn i setio’r siop i fyny ar lein fel rhan o datblygu cynulleidfa Storiel ar lein

Ers pryd ydych chi wedi gweithio yn Storiel?

Ebrill 2019

Beth yw’r peth gorau am eich rôl yn Storiel? / Pe gallech chi gael un archpŵer (superpower), beth fyddai hwnnw?

Dwi’n jyst caru dod i fewn i Storiel a bod yn rhan o awyrgylch creadigol a gyfarfod bobl diddorol, gweithio hefo tîm neis

Superpower = “Instant Inspiration” i bobl hefo “creative block”

Beth yw eich hoff eitem yng nghasgliad Storiel a pam?

Ar y funud, y doli’s, mae nhw’n rili creepy ond yn diddorol

Beth yw eich hoff ffordd o ymlacio y tu allan i’r gwaith?

Mynd am dro neu ymlacio mewn rhaglen teledu fantasi neu sci-fi