Darganfod Hanes Dychrynllyd Calan Gaeaf Yng Nghymru

Gyda Chalan Gaeaf yn dod yn nes – beth am edrych ar hanes cyfoethog y gwyliau brawychus yma, yn enwedig yng Nghymru.  Yn draddodiadol dathlwyd Calan Gaeaf ar y cyntaf o fis Tachwedd, dechrau’r gaeaf, mae’r adeg hon o’r flwyddyn yn cynrychioli marwolaeth ac ail-eni.  Mae lliwiau llachar natur yn dechrau pylu ac mae hi’n dechrau oeri ac yn arwydd fod tymor newydd ar gyrraedd. Roedd diwedd y cynhaeaf yn adeg i ystyried a chlodfori ffrwythlondeb y ddaear. I ddangos eu diolch arferai’r hen Gymry, ddod ynghyd i gael swper arbennig, mewn ardaloedd o Gymru gelwid hwn yn Stwmp Naw Rhyw….

gwledd i dynnu dŵr i’r dannedd o lysiau gwraidd fel moron, pannas, tatws, maip a chennin.   Yn ôl y sôn roedd naw cynhwysyn hanfodol i’r wledd fyddai’n cadw’r ysbrydion drwg draw ac weithiau byddai modrwy briodas lwcus yn cuddio yn y bwyd!  Ond nid dyna’r cyfan – yn ystod Calan Gaeaf roedd y llen rhwng y byd materol a’r byd ysbrydol yn denau iawn ac roedd hyn yn caniatáu i chi siarad efo pobl oedd wedi ein gadael.  Mae’r tymor yma’n llawn o eneidiau, yn cynnwys y Ladi Wen amddiffynnol sy’n gwylio dros fynwentydd a chroesffyrdd a’r ysbryd brawychus o’r enw yr Hwch Ddu, sy’n llechu yng ngogledd Cymru. 

Dewch yma i fwydo’ch dychymyg ar gasgliad Storiel o wrthrychau dychrynllyd!

Paratowch i gael eich dychryn gan wrthrychau fel y crochan bach a ddefnyddiwyd i felltithio, daethpwyd o hyd i hwn yng Nghaergybi gydag esgyrn a chroen llyffant a 40 o binnau ynddo!  Ond gwyliwch, byddai’n amhosib cael gwared ar y felltith pe byddai’r llyffant wedi boddi neu wedi llosgi. Neu, beth am ryfeddu ar y Jwg Bellamarine ddaeth i’r fei ger Cadeirlan Bangor, credir fod ynddo dystiolaeth o swyngyfaredd, yn cynnwys pi-pi ac esgyrn anifail! Ond efallai mai’r peth mwyaf anghyffredin yw’r bwced gyda symbolau paganaidd arno, sy’n cynrychioli dyfodiad Gwynedd a Christnogaeth.  Dyna flas yn unig o’r trysorau arswydus sydd yma i chi eu gweld yn Storiel!