Diwrnod Rhyngwladol y Merched Hapus a Pwy di Pwy

Diwrnod Rhyngwladol y Merched Hapus! Hoffem nodi’r diwrnod hwn gyda chyflwyniad i un o’r merched ysbrydoledig ar ein tîm, Emma Hobbins. Cadwch lygad allan dros yr wythnosau nesaf i cyfarfod â gweddill ein tîm gwych!
Enw: Emma Hobbins
Swydd: Cymhorthydd Amgueddfa
Prif ddyletswyddau eich rôl yn Storiel:
Helpu i ofalu am gasgliadau’r amgueddfa a’u dehongli.
Ers pa mor hir ydych chi wedi gweithio yn Storiel?
Amser hir! Dechreuais weithio fel gwirfoddolwr yn yr Amgueddfa yn 1979 pan oedd dal yn cael ei alw’n ‘Amgueddfa Hynafiaethau Cymreig’ – ar ôl hynny fe wnes i ymchwil MA o’r enw ‘An illustrated catalogue and history of the Museum of Welsh Antiquities’. Nid oedd catalog cyn hynny, ac roedd llawer o’r casgliad wrth gefn mewn bagiau plastig du a hen flychau – roedd wedi symud lleoliad ychydig flynyddoedd ynghynt. Roedd yn gyfle gwych i mi – faint o bobl heddiw sy’n gallu baglu ar draws casgliad mor ddiddorol mewn cyflwr o’r fath. Rwyf wedi parhau i weithio’n rhan-amser ar yr amgueddfa ers hynny.
Beth yw’r peth gorau am eich rôl yn Storiel – (neu) pe gallech gael un archbŵer, beth fyddai hwnnw?
Rwyf wrth fy modd yn gweithio gyda’r casgliadau diddorol –ac yn awr gallaf guradu arddangosfeydd sydd yn eu dehongli mewn gwahanol ffyrdd. Yr un olaf wnes i cyn y cyfyngiadau oedd ‘Button it Up’ – edrych ar faterion rhyw drwy brism ein casgliadau.
Pe bai gennyf archbŵer, y gallu fyddai hel digon o arian i redeg Storiel gyda chyllideb lawer mwy, a gwneud Bangor yn ‘Ddinas Amgueddfeydd’, gan gyfuno holl gasgliadau gwych y Brifysgol a Storiel.
Beth yw eich hoff eitem yn Storiel a pham?
Mae cymaint – ar hyn o bryd mae’n debyg mai olion gwisg sidan wedi’i brodio oedd yn perthyn i Elizabeth Morgan oedd yn byw yn Henblas yn Ynys Môn yn y 18fed ganrif.
Sut ydach chi yn ymlacio y tu allan i oriau gwaith?
Lluniadu, gwneud llyfrau, garddio, cerdded a darllen.