Gwaith Newid Arddangosfeydd

Mae gwaith ar newid drosodd arddangosfeydd a ohiriwyd oherwydd pandemig Covid19 yn parhau! Braf iawn i gael dechrau arni eto a theimlo ein bod yn gwneud rhywfaint o gynnydd o’r diwedd. Yr ydym wedi bod yn ymgymryd â’r gwaith o dynnu i lawr a dychwelyd arddangosfa ‘Welsh Not’ Paul Davies, ac yr ydym yn gyffrous i gael gosod arddangosfa Celf Agored a oedd fod i agor yn y Gwanwyn. Fel y gwelwch yn y lluniau, mae’r oriel wedi ei addasu i helpu ymwelwyr gael gweld y celf yn ddiogel a chadw at y pellteroedd cymdeithasol priodol.