Gweithgaredd Masgiau er budd GISDA

Rydym wedi postio cyfanswm anhygoel o 80 masg ar gyfer ein digwyddiad haddurno masg er budd yr elusen ddigartrefedd GISDA fel rhan o Ŵyl Amgueddfeydd Cymru. Bydd cyfranogwyr yn addurno masgiau gartref i’w cynnwys mewn arddangosfa ar-lein arbennig ochr yn ochr â masgiau a wneir gan artistiaid proffesiynol. Ni allwn aros i weld y masgiau gorffenedig! I pawb sydd yn cymryd rhan, peidiwch ac anghofio rhoi #Storiel wrth rhannu lluniau o’u gwaith ar lein!