Mis Hanes Pobl Ddu

Oherwydd Mis Hanes Pobl Ddu, hoffem dynnu sylw at yr arteffactau yn ein hamgueddfa sy’n ymwneud â’r cyfnod arwyddocaol hwn.

Ymhlith yr eitemau hyn mae’r Gragen Dro, corn cragen strombus fawr neu gragen dro a ddefnyddiwyd hyd at y 19eg ganrif i alw gweithwyr fferm i mewn o’r caeau am eu seibiant. Cafodd un o’r pum cragen yng nghasgliad Storiel ei defnyddio gan fecws pentref i gyhoeddi bod y popty yn ddigon poeth i bobi bara. I baratoi’r gragen ar gyfer chwythu, cafodd rhan pigfain miniog y gragen ei lifio i ffwrdd a’i sandio i wneud darn ceg fflat, cyfforddus. Credir mai cyrn cregyn fel hyn yw un o’r offerynnau cerddorol hynaf a wnaed gan bobl. Mae’r utgorn cragen hynaf y gwyddys amdano, sy’n cynhyrchu nodyn, yn 17,000 mlwydd oed ac fe’i cafwyd mewn ogof yn Ffrainc. Daw’r cregyn tro mawr hyn o’r Caribî a chawsant eu dwyn yn ôl gan longau wrth iddynt ddychwelyd o gludo Affricanwyr oedd yn gaethweision o arfordir gorllewinol Affrica i blanhigfeydd siwgr y Caribî.   

Eitem arall o ddiddordeb yw’r Ffolant Gragen (Shell Valentine), eitem boblogaidd yn y 19eg ganrif. Byddai morwyr yn eu prynu i ddod adref i’w hanwyliaid. Gwnaed y rhan fwyaf o’r rhain rhwng 1830 a 1890 gan ferched lleol Barbados. 

Yn olaf, mae gennym Manillas Copr, breichledau copr a ddefnyddiwyd i brynu caethweision ar arfordir Gorllewin Affrica. Cludwyd y caethweision hyn wedyn  i blanhigfeydd yn India’r Gorllewin ac America. Byddai’r mwyngloddiau ym Mynydd Parys, Ynys Môn a gweithfeydd copr yn Abertawe, Penclawdd, a Threffynnon, a reolwyd gan Thomas Williams, Ynys Môn, yn cynhyrchu dalennau copr a bolltau ar gyfer llongau masnach, yn ogystal â nwyddau copr a phres. Gwnaed y pedair manilla yn ein casgliad yn Nyffryn Maes Glas yn Nhreffynnon.

Mae’n bwysig addysgu pobl am y gwrthrychau hyn sydd o arwyddocâd hanesyddol a’u rôl wrth lunio cwrs hanes dynol.