Neges i Fforwm Treftadaeth Gwynedd

Annwyl pawb,

Nid yw Fforwm Treftadaeth Gwynedd wedi cyfarfod ers cryn amser ac o dan yr amgylchiadau roeddem yn meddwl  byddai ‘n syniad da i ni ail ymgysylltu er mwyn cefnogi ein gilydd.

Rydym yn cydnabod, yn amlwg, bod hwn yn gyfnod anhygoel o anodd i bawb ac yn enwedig i’r sector  treftadol a diwylliannol sydd mor ddibynnol ar incwm a grantiau.

Rydym yn cysylltu gyda chi i weld sut mae pethau, ac os oes gennych chi unrhyw bryderon neu bwyntiau yr hoffech i ni eu codi gyda chynrychiolwyr gwleidyddol, neu eu hamlygu i ni fel Cyngor .

Byddai’n ddefnyddiol iawn i ni gael teimlad o sut mae’n sector yn ymdopi ac unrhyw heriau sydd angen i ni fod yn ymwybodol ohonynt.

Fel Cyngor, rydym wedi sefydlu tudalennau ar ein gwefan gyda llawer o wybodaeth i gefnogi busnesau a chymunedau Gwynedd ac mae’r wybodaeth hwnnw ar gael yma<https://www.gwynedd.llyw.cymru/cy/Trigolion/Argyfwng/Coronafeirws-Covid-19-Gwasanaethaur-Cyngor.aspx>.

Mae hi’n eironig bod diwylliant, treftadaeth a’r celfyddydau i gyd i’w gweld mor bwysig mewn cyfnod o argyfwng cenedlaethol – yr union feysydd sydd wedi gorfod cael eu torri cymaint dros y blynyddoedd diwethaf, a gobeithio y bydd y cyfnod yn profi un peth ar gyfer y dyfodol – sef bod rhain yn hanfodol wrth greu cymunedau cytbwys, cynaliadwy a hapus.

Os oes unrhyw beth y gallwn ei wneud i gynorthwyo neu os ydych angen unrhyw gyngor – gadwch i ni wybod a fe geisiwn ni a’r tîm ein gorau. Cofiwch hefyd bod modd i ni rannu gwybodaeth am unrhyw ddigwyddiadau neu weithgareddau trwy Gwynedd Greadigol a chyfryngau cymdeithasol Cyngor Gwynedd a Storiel.

Rydym yn ystyried os oes gwerth mewn cynnal cyfarfod digidol yn ystod yr wythnosau nesaf er mwyn trafod unrhyw faterion sydd yn codi a hefyd ceisio llunio cynllun adfer ar gyfer y cyfnod sydd i ddod – a fyddai hyn yn ddefnyddiol? Dydyn ni ddim eisiau mynd ar ofyn amser neb – felly os na fyddai’n ddefnyddiol, plîs gad i ni wybod!

Cofion cynhesaf atoch

Cyng. Gareth Thomas

Roland

Nest

 

Roland Evans

Pennaeth Cynorthwyol Economi a Chymuned

Assistant Head Economy and Community

 

Cyngor Gwynedd Council

Stryd y Jêl

Caernarfon

Gwynedd

LL55 1SH

01286 679 450

[email protected]