Nôl yn Storiel o’r diwedd 

Nôl yn Storiel o’r diwedd – i dynnu dwy arddangosfa yn barod i rai newydd gael eu gosod cyn i ni agor. Symudais wisg y Frenhines Victoria a oedd wedi’i harddangos ar yr un pryd â sgwrs Lucy Worsley amdani fis Tachwedd diwethaf. Roedd trin y wisg, ac edrych arno, yn fy atgoffa gymaint rwy’n hoffi gweithio agos gyda chasgliadau anhygoel Storiel. Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn y storfa, felly mae’n foddhaol iawn cael rhai ohonynt allan ar gyfer arddangosfeydd dros dro. Yr arddangosfa wisgoedd newydd fydd dillad a thecstilau o’r 1960au a’r 70au.

Yr arddangosfa arall a dynais i lawr oedd ‘Button it Up’ – arddangosfa yn edrych ar rywfaint o’n casgliad (ac ychydig o fenthyciadau) drwy themau materion rhyw. Y sylw olaf yn y llyfr ymwelwyr oedd ‘Nice to see a museum acknowledge all history is LGBTQ+ history and we have always existed’ Roedd y blwch gwisgo yn boblogaidd hefyd!

Emma Hobbins