Cyfarfod â’r Tîm – Dion Hamer

Enw: Dion Hamer

Swydd: Swyddog Arddangosfeydd Rhan Amser / Uwch Gymhorthydd Amgueddfa Lloyd George

Prif ddyletswyddau eich rôl yn Storiel :

Gosod a thynnu lawr sioeau celf yn orielau Storiel.

Ers pryd ydych chi wedi gweithio yn Storiel?

Wedi bod yn helpu gosod arddangosfeydd ers flwyddyn cyntaf Storiel, 5 mlynedd yn nol.

Beth yw’r peth gorau am eich rôl yn Storiel?

Cael gweithio yn agos hefo artistiaid, hefyd mae’n rywle lle mae pob diwrnod yn wahanol.

Beth yw eich hoff eitem yng nghasgliad Storiel a pam?

Mae lot o gelf anhygoel i ddewis ond mae’r plentyn ynof fi yn ennill hon: Cleddyf Segontiwm.

Beth yw eich hoff ffordd o ymlacio y tu allan i’r gwaith?

Yn dad i ddau bychan felly y gorau fedrai ddweud ydi gwrando ar fiwsig tra yn golchi llestri.