STORIEL Agored 2022 – Enillydd Gwobr y Detholwr: Jonathan Retallick

Ganwyd a magwyd Jonathan Retallick ar Ynys Môn. Yn ei ddyddiau cynnar byddai yn aml yn cerdded cefn gwlad gogledd Cymru gydag artistiaid lleol a chaiff ei ysbrydoli gan y mannau arbennig sy’n swatio yn y tirweddau hardd. Mae’n mynegi’r angerdd hwn drwy ddangos yr effaith caiff golau naturiol ag artiffisial ar amgylcheddau organig, gan ddatblygu ffordd anghynrychiadol o baentio gydag olew sydd yn adlewyrchu ei brofiadau ef o’r byd y gwêl mor hudolus yr olwg.

Astudiodd Jonathan Celf Gain ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan ennill gradd dosbarth gyntaf anrhydeddus yn 2020, cyn dychwelyd i Fôn a sefydlu ei stiwdio ei hun. Cafodd ei arddangosfa un-dyn gyntaf yn oriel Canfas, Ceredigion, ac mae wedi cymryd rhan mewn nifer o arddangosfeydd grŵp gan gynnwys ‘Lone Worlds’ yng Nghaerdydd, Artistiaid Ifanc Cymru yn MOMA, Machynlleth ac yn Arddangosfa Celf Gyfoes Cymru yn Llundain.

Llongyfarchiadau JONATHAN RETALLICK, Enillydd Gwobr y Detholwyr cystadleuaeth Agored STORIEL 2022!

Diolch yn fawr iawn hefyd i Lisa Eurgain Taylor am fod ein detholwr gwadd y flwyddyn hon.