Gweithdai Merched yn Hawlio Heddwch
16 April - 07 June 2025Cyfres o gweithdai i cyd-fynd hefo arddangosfa Merched yn Hawlio Heddwch
Cyfres o gweithdai i cyd-fynd hefo arddangosfa Merched yn Hawlio Heddwch
Mae LLiFT yn grŵp cymunedol cynhwysol sy’n rhoi’r cyfle i unigolion chwarae neu brofi cerddoriaeth ensemble fyrfyfyr yn rhydd yn rheolaidd ym Mangor, Gogledd Cymru ac i archwilio dulliau rhyngddisgyblaethol ehangach o wneud cerddoriaeth arbrofol.
Mae Llif(T) yn falch o gyflwyno un arall yn ei gyfres barhaus o sesiynau cerddoriaeth arloesol ac arbrofol, a fydd yn cynnwys y perfformiwr hynod dalentog, John Bisset.
Mae ‘Tu Ôl i’r Llenni’ yn brosiect trwy’r rhwydwaith CELF (Casgliad Celf Gyfoes Cymru) a Celf ar y Cyd. Gwefan yw Celf ar y Cyd sy’n rhoi cyfle i bawb bori, dysgu a chael ysbrydoliaeth gan filoedd o weithiau celf gyfoes o gasgliad Amgueddfa Cymru. Bwriad y prosiect oedd peilota sut gall ysgolion cael mynediad gwell i’n casgliadau cenedlaethol – a sut gall orielau sy’n rhan o rhwydwaith CELF helpu hwyluso hynny. Un model o weithio sydd yma. Mae Storiel a Plas Glyn y Weddw wedi gweithio gyda dwy ysgol gynradd; Ysgol Garnedd (Bangor) ac Ysgol Cymerau (Pwllheli), yr artist Luned Rhys Parri ac Amgueddfa Cymru i gyflawni’r gwaith.
Ymunwch â ni yn STORIEL am y cyfle i gwrdd â Sian, i archwilio ei deunyddiau – o ludw i reis – ac i gael y cyfle i ddal a thrin rhai o’i darnau ceramig.
Mae'r Joshua Gardener yn wreiddiol o California ond bellach yn byw ym Mangor ac wedi dysgu’r Gymraeg. Mae ei brosiect cerddorol newydd Pioden yn gyfundrefn o Punc a Gwerin a mae wedi adeiladu dilyniant ffyddlon yn y misoedd diwethaf . Dowch lawr i Cafi Storiel am pnawn o gerddoriaeth acoustic egniol.
Gweithdy i’r ifanc a ifanc ei ysbryd dros y hanner tymor hefo’r arlunydd a darlunydd cyffroes Mr Kobo wrth iddo creu darnau o gelf cyffroes syn ymateb i casgliadau celf a creiriau amgueddfa Storiel ar disgiau llechi.
Drwy ymateb i sesiwn Storiel Tyrchu Sain yr wythnos canlynol, bydd y rapiwr ar bît-bocsiwr adnabyddus Mr Phormula am fynd trwy pob twll a chornel o catalog cerddorol Sain i greu cyfansoddion newydd Hip Hop . Gan gyfuno doniau lleisiol, samples ac ailaddasiadau i greu pnawn byth cofiadwy o gerddoriaeth.
I dathlu rhyddhad albwm newydd y cynhyrchydd o Gaerdydd Don Leisure mae Storiel, Amgueddfa Gwynedd yn hynod falch o gyflwyno diwrnod o sgyrsiau fydd yn dathlu record syn defnyddio recordiau o’r label hanesyddol. Recordiau Sain.