WEDI GANSLO: Llechi Cerfiedig Storiel
22 August 2025Fydd cyfranogwyr yn defnyddio cyfryngau gwahanol i greu delwedd gan wneud rhwbiadau gyda creonau cwyr ac ychwanegu lliw. Arbrofi gyda Batic a gwrthydd cwyr
Fydd cyfranogwyr yn defnyddio cyfryngau gwahanol i greu delwedd gan wneud rhwbiadau gyda creonau cwyr ac ychwanegu lliw. Arbrofi gyda Batic a gwrthydd cwyr
Ymunwch hefo ni yn Storiel ar Awst y 5ed am weithdy hynod ddifyr gyda Harrie Fuller fydd yn cyd fynd hefo’r arddangosfa Dros y Swnt (arddangosfa iw weld 20.09.2025)
Os dach chi’n licio’r syniad o darlunio neu baentio mewn grŵp croesawgar a sbardunol – dewch draw! Byddwn ni’n creu mewn awyrgylch hamddenol lle mae croeso i bawb, boed chi’n newydd sbon i gelf neu wedi bod yn darlunio ers blynyddoedd.
Cyfle i ‘ crafu fewn i’r crawia’ gyda gweithdy naddu patrymau a delweddau o bod lliw a llun ar “lechen” gyda’r artist Elen Williams.
Ymunwch â'r gwehydydd leol, Karla Pearce, i weu'r basged aeron ddeniadol. Mae'n basged perffaith i ddechreuwyr, ac bydd Karla'n eich tywys yn y broses mewn amgylchedd hamddenol a chefnogol. Byddwch yn dysgu sgiliau sylfaenol gwehyddu basgedi cylch, a bydd gennych basged prydferth a defnyddol i'w gymryd adref gyda chi
Ymunwch â'r artist adnabyddus Catrin Williams am gyfres gweithdai tair rhan, yn hamddenol ac ysbrydoledig, wedi'u cynllunio i'ch tywys yn raddol drwy'r broses greadigol o ddarlunio cychwynol i gelf deunydd gweadog
Ymlaciwch yn y gweithdy ffeltio hwn ar gyfer oedlion. Byddwch yn dysgu technegau ffeltio gwlyb a ffeltio gyda nodwydd wrth i chi greu tirlun o wlân eich hun i fynd adref. Dewch â llun ar gyfer ysbrydoliaeth neu gadewch i'ch dychymyg neud y gwaith. Byddwch yn darganfod sut i gyfuno gweadau a lliwiau gan ddefnyddio ffibrau naturiol i roi bywyd i gelf. Nid oes angen unrhyw brofiad. Mae'r holl deunyddiau ar gael - dim ond angen dod â'ch creadigrwydd.
Gweithdy celf a barddoniaeth dan ofal Elin Alaw. Dewch i ddarlunio tamaid bach o hanes bro'r chwareli, a hynny mewn cyfrwng cymysg. Cawn gyfle i drafod ffurf ac ansawdd hen dun bwyd chwarelwr, ac arbrofi wedyn efo golosg a dyfrliw i ddod â bywyd i'n lluniau. Yn olaf, byddwn yn ymgorffori englyn Glan Tecwyn i'n gwaith. Sesiwn dwyawr, addas i blant 8 oed a hŷn, a chroeso i bob rhiant gymryd rhan hefyd - does dim angen profiad blaenorol o greu celf! Niferoedd cyfyngedig felly archebwch eich lle ymlaen llaw.
Perfformiad cerddorol gan y deuawd Mirror gaze