Y Marcwis Dawnsio

Henry Cyril Paget, 5ed Marcwis Ynys Môn (16 Mehefin 1875- 14eg Mawrth 1905), yr Arglwydd Paget tan 1880 ac Iarll Uxbridge rhwng 1880 a 1898, gyda’r  llysenw ‘Toppy’ fe roedd yn Arglwydd  Prydeinig ac  yn adnabyddus am dreulio ei etifeddiaeth ar fywyd cymdeithasol gwyllt a chasglu dyledion enfawr yn ystod ei fywyd byr. Roedd yn fab hynaf i’r 4ydd Marcwis ac yn hen ŵyr  i’r arwr rhyfel enwog ‘Field Marshal’ Henry William Paget, a oedd hefyd gyda’r llys enw ‘Toppy’ hefyd.. Ganwyd ar Fehefin 16eg 1875, ym Mharis i ail wraig y Marcwis ’, Blanche Mary Boyd Paget ac roeddl llawer o ddyfalu ynghylch ei wir dad, gyda llawer yn credu mai ei dad oedd yr actor Ffrengig Benoit-Constant Coquelin. Cafodd Paget ei faethu gan chwaer Coquelin ym Mharis rhwng dwy ac wyth oed.

Yn dilyn trydedd briodas ei dad gyda aeres Americanaidd, aethpwyd â Paget oedd yn wyth oed i fyw ym Mhlas Newydd, Ynys Môn.. Credwyd bod ei fagwraeth ym mhlasty Ynys Môn yn un unig, gyda dim ond gofalydd oedrannus a llu o gŵn i gadw cwmni iddo. Caniataodd magwraeth gyfoethog Paget sedd iddo yn Eton ac, yn annisgwyl braidd, comisiwn fel Is-gapten gyda’r Ffiwsilwyr Cymreig. Cafodd deitl ac awdurdod eiddo’r teulu ar ôl i’w dad farw ym 1898, gan gynnwys preswylfa’r teulu ym mhlasty Ynys Môn.

Roedd disgwyl iddo briodi, cael plant, a byw bywyd parchus fel dyn o safle uchel a ffortiwn er mwyn cael ei dderbyn gan ei gyfoedion a chymdeithas Fictoraidd. Ar Ionawr 20, 1898, priododd ei gefneither Lillian Florence Maud Chetwynd. Yn ystod eu mis mêl ym Mharis, prynodd yr Marcwis llond ffenestr gyfan o ddiemwntau ar gyfer ei briodferch newydd. Mi fyddai yn eistedd ac yn rhyfeddu at ei chorff wedi’i addurno ag emrallt, diemwntau a rhuddemau gwych, ond hyn oedd yr agosaf y byddai’r ddau yn gorfforol. Credwyd mai ei chroen hyfryd, gwedd hardd a’i ffrâm fain oedd popeth yr oedd yr Ardalydd yn dyheu amdano. Cafodd eu priodas tair blynedd ei dirymu yn ddiweddarach oherwydd na chafodd ei ‘chadarnhau’ erioed.

Trodd ei sylw at ei angerdd am actio, gan drosi eglwys y teulu yn theatr odidog 150 a’i enwi yn “The Gaiety”, gan roi y prif rolau iddo’i hun. Cyflogodd actorion proffesiynol o Lundain a oedd yn ymweld â Llandudno ar yr addewid o gyflog anferth ar gymryd rhan yn ei berfformiad cyntaf, Aladdin. Creuwyd llwybr gyda fflachlampau tân yr holl ffordd i fyny i Plas Newydd i arwain ymwelwyr i’w theatr unigryw. Cafodd cyfres o wisgoedd wedi’u gwneud yn arbennig, wedi’u gorchuddio â diemwntau go iawn, wedi’u creu gan arbenigwyr dilledu yn Llundain. Amcangyfrifwyd bod cost un perfformiad yn unig yn fwy na  £46 miliwn. Ei act enwocaf, fodd bynnag, oedd y ‘Butterfly Dance’, lle fe cafodd ei alw’n ‘The Dancing Marquess’. Yn ystod yr seibiannau, byddai’n gwneud golygfa ohono’i hun trwy berfformio, dawnsfeydd ‘sinous, sensual, snake-like’ a ysbrydolwyd gan y dawnsiwr Americanaidd enwog Loie Fuller. Byddai gwisg swmpus o sidan gwyn tryloyw yn cael ei chwifio fel adenydd pili pala. Byddai’r Marcwis yn dosbarthu cardiau post  gyda lluniau ohono’i hun yn gorwedd ar longe chaise yn ei hoffwisgoedd, neu y tu ôl i olwyn un o’i nifer o geir ar ôl pob un o’i berfformiadau rhyfeddol.

Roedd rhywioldeb Paget wedi bod yn destun damcaniaethu ers amser maith, ac mae’n parhau i fod felly nawr, er gwaethaf iddo wrthod cysyniadau traddodiadol rhyw, dosbarth ac ymarweddiad. Cafodd Paget ei enwi fel y aristocrataidd hoyw enwocaf yn y cyfnod gan H. Montgomery Hyde ym 1970. Mae eraill yn honni ei fod yn meddwl gormod ohono’i hun i ystyried cael perthynas ag unrhyw un arall. Roedd llawer o bobl yn tybio bod Paget yn hoyw oherwydd ei ffordd o fyw , y traws wisgo, a chwalfa ei briodas. Nid oes unrhyw dystiolaeth bod ganddo gariadon o’r naill ryw na’r llall; yn hytrach, yn ôl yr hanesydd perfformiad Viv Gardner, roedd yn “textbook narcissist”: yr unig berson y gallai garu oedd ei hun, ac oherwydd, am ba bynnag reswm, roedd yn ‘unlovable’. Cafodd yr Marcwis sylw mewn astudiaeth o rywioldeb yr 20fed ganrif gan y rhywolegydd amlwg Iwan Bloch, a nododd y gallai’r Marcwis, yn gynnar yn y 1900au, gael ei weld yn mynd trwy strydoedd Llundain, yn arogli o persawr ac yn cario ei bwdl enwog, wedi’i addurno â rhubanau pinc, dan ei fraich.

Yn y pen draw, fe gafodd TB a bu farw- gyda chyn-wraig Llily wrth ei ochr – yng Ngwesty’r Royale yn Monte Carlo.

Bu’n byw bywyd i’r llawn a bu farw’n gynamserol, yn 29 oed. Trosglwyddwyd y tir a’r teitl i lawr i’w gefnder, Charles Paget, a oedd, fel gweddill yr uchelwyr beirniadol, yn anghytuno gyda ffordd o fyw anuniongred fflamllyd yr Arglwydd ifanc – a’r ffaith ei fod yn gwario cyfoeth y teulu. Claddwyd yn  Llanedwen. Er gwaethaf yr hyn a oedd yn hysbys amdano, roedd pobl Bangor yn drist o glywed am ei farwolaeth oherwydd er gwaethaf ei fod yn wahanol, roedd yn cael ei hoffi’n fawr yno, yn ôl y Times. Fodd bynnag, roedd ei ffordd o fyw anuniongred yn torri bron pob norm cymdeithasol aristocrataidd ar y pryd, gan annog gwawdio yn ei deyrngedau.

Mae rhaglen Aladdin yn rhan o gasgliad Storiel a hi oedd y rhaglen ar gyfer y ddrama gyntaf a berfformiwyd yn Theatr Gaiety, Plas Newydd, Ynys Mon.