Colin See-Paynton

Yn gwbl hunanddysgedig fel engrafwr, dechreuodd See-Paynton wneud printiau yn 1980 ac ers hynny mae wedi cynhyrchu dros 250 o argraffiadau. 

⁠“Mae engrafu ar bren yn broses gwneud printiau cerfwedd sydd i mi yn dechrau gyda datblygiad dyluniad.  Mae fy lluniad cychwynnol yn mynd trwy nifer o gamau cynyddol ddatblygedig nes bod gennyf luniad llinell pur sy’n syml ond wedi’i ddiffinio’n glir iawn.  Dyma fy llun gorffenedig ac mae nawr yn barod i gael ei drosglwyddo i’r bloc.”

Mae See-Paynton yn defnyddio pren Bocs ar gyfer yr engrafiadau llai a phren Lemon ar gyfer yr engrafiadau mwy.  Gall pob engrafiad pren gymryd unrhyw beth o wythnos i dri neu bedwar mis i See-Paynton ei gwblhau, yn dibynnu ar faint a chymhlethdod y ddelwedd.  Cyn gynted ag y bydd yr engrafiad wedi’i gwblhau, rhoddir inc gyda rholer ar yr wyneb ‘cerfwedd’ sydd newydd ei greu. Mae papur ac inc fel arfer yn sychu o fewn 48 awr, yna cânt eu llofnodi a’u rhifo.  Mae pob print yn brint gwreiddiol, wedi ei gymryd o’r bloc.

Daeth Colin â bywiogrwydd newydd i un o’r ffurfiau cynharaf o wneud printiau. Er bod ei waith yn seiliedig ar arsylwi manwl ar y byd naturiol, ei ddawn yw dyfeisio cyfansoddiadau sy’n distyllu perthnasoedd ecolegol ac ymddygiadol y rhywogaeth a’u cynefinoedd. Mae’n defnyddio ei wybodaeth a’i ddychymyg i adeiladu engrafiadau cymhleth a choeth iawn ac mae wedi esblygu rhywbeth newydd trwy batrwm a haenu ei ddelweddau. Mae cyfansoddiadau diweddarach, yn enwedig y rhai o safbwynt tanddwr, yn defnyddio llinell gynyddol haniaethol a hylifol i ddal symudiadau cyflym a gwibiol adar a physgod.

Mae Colin See-Paynton yn Gymrawd o’r Academi Frenhinol Gymreig, yn Gymrawd er Anrhydedd o Gymdeithas Frenhinol y Peintwyr a’r Gwneuthurwyr Printiau, ac yn aelod o Gymdeithas yr Engrafwyr Pren. Fe’i hystyrir yn eang fel un o brif engrafwyr pren y Deyrnas Unedig a chynrychiolir ei waith mewn llawer o gasgliadau preifat a chyhoeddus ledled y byd gan gynnwys y V&A, Amgueddfa Ashmolean, Berlin Graphothek, Amgueddfa ac Oriel Gelf Fremantle, Awstralia , Salon Gaudi, Barcelona, Amgueddfa Gelf Guangdong, Tsieina, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Bywyd Gwyllt Yosemite, Califfornia. Mae wedi teithio gyda Sefydliad Artistiaid dros Natur (Artists for Nature Foundation) i’r Pyrenees ac i Alasga i gofnodi ac amlygu trwy ei gelfyddyd y bygythiad i fywyd gwyllt a achosir gan ddyn yn ecsbloetio adnoddau naturiol yr ardaloedd hyn.

Am rhagor o wybodaeth am yr arddangosfa, cliciwch yma.