Darren Hughes

Mae gwneud printiau ac yn arbennig y broses intaglio wedi chwarae rhan fawr yn natblygiad fy ngwaith dros y blynyddoedd ac rwyf wedi ei ystyried fel estyniad o fy ymarfer lluniadu, ac mewn ffordd, mae’n caniatáu i mi ddod â delweddau yn fyw mewn ffordd unigryw. Mae’r broses yn rhywbeth rydw i wedi bod wrth fy modd efo hi ers pan oeddwn i’n fyfyriwr. Mae bob amser rywbeth bron yn hudolus am y broses o weithio ar blât, acwatintio, ysgythru ac yna’r cyffro o weld y canlyniadau wrth edrych ar broflen ac argraffu.

Mae’r delweddau eu hunain wedi’u seilio ar arsylwi, ac yn adlewyrchu ar egni ac awyrgylch y lleoedd yr ymwelais â nhw a’m cariad at geometreg, strwythur a phensaernïaeth y dirwedd. Maen nhw’n aml yn cynnwys ac yn myfyrio ar eiliadau a brofwyd tra yn y dirwedd a dwi’n credu mai fy nod yw dal ac ail-greu dwyster yr eiliadau hynny; i’w gwneud yn barhaol a rhywsut i wneud synnwyr o’u harwyddocâd.

Ganed Darren ym Mangor, gogledd Cymru yn 1970 ac astudiodd gelfyddyd gain a gwneud printiau yn Ysgol Gelf a Dylunio Falmouth.

Yn dilyn cyfres o arddangosfeydd hynod lwyddiannus, gwahoddwyd Darren gan y diweddar Syr Kyffin Williams i arddangos gydag ef yn sioe olaf Syr Kyffin yn Llundain. Afraid dweud y bu’r arddangosfa yn llwyddiant ysgubol a gwerthodd Darren bob llun. Dilynwyd hynny gan nifer o sioeau hynod lwyddiannus gydag Oriel Martin Tinney ac Oriel Thackeray, Llundain.

Gan weithio’n bennaf yn nhirwedd gogledd Cymru a’i chyffiniau, ac yn fwy penodol, ym Môn a Bethesda, mae Darren yn mynd i’r afael â’r dirwedd gyda realaeth a gonestrwydd cyfoes. Mae’n creu ei dirweddau trwy arsylwi trylwyr a rhoi  sylw i fanylion. Mae ei luniadau a’i baentiadau yn fanwl, yn bwerus a gwefreiddiol ac maent yn dathlu’r dirwedd Gymreig fel y mae.

Ochr yn ochr â’i waith proffesiynol fel Artist, mae Darren wedi dysgu Celfyddyd Gain yn yr Adran Gelf yng Ngholeg Menai ers dros 23 blynedd, gan weithio ar amrywiaeth o gyrsiau ar lefelau 1 i 6. Yn ystod y cyfnod hwn mae hefyd wedi bod yn arweinydd cwrs ar gyfer Lefel A Celf a Dylunio, y Cyrsiau Celf a Dylunio Lefel 1 a 2 ac ar hyn o bryd ef yw pennaeth y cwrs Mynediad i Addysg Uwch Celf a Dylunio.

Mae Darren Hughes wedi arddangos yn eang gan gynnwys arddangosfeydd yn Oriel Mostyn, Oriel Martin Tinney a Chanolfan Grefft Rhuthun yng Nghymru, Oriel Thackeray yn Llundain yn ogystal ag yn rhyngwladol yng Nghyprus, UDA ac Iwerddon.  Yn artist sydd wedi ennill gwobrau, mae ganddo waith mewn casgliadau preifat a chyhoeddus, gan gynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.   

Am rhagor o wybodaeth am yr arddangosfa, cliciwch yma.