Hanes yr Adeilad

Plas yr Esgob, Bangor: Datganiad o Arwyddocâd

Mae Plas yr Esgob Bangor (Neuadd y Dref Bangor) yn adeilad rhestredig gradd II. Fe’i arolygwyd gan y Comisiwn Brenhinol yn 1949, ac roedd ei gyflwr yn ‘deg’ yn unig. Mae’n adeilad sydd wedi’i esgeuluso rywfaint ond mae’n adeilad o ddiddordeb eithriadol y mae angen nodi ei arwyddocâd yn glir.

  1. Cyd-destun. Mae Plasau’r Esgobion yn fath o adeiladau arbennig a phrin. Maent yn grefyddol ac yn seciwlar. Roedd prif breswylfa’r esgob wedi’i lleoli ger yr eglwys gadeiriol ac fe’i cynhaliwyd gan yr ystadau esgobol. Safleoedd archeolegol yw plasau cynddiwygiadol yr esgobion Cymreig yn bennaf. Dinistriwyd rhai yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr (Bangor, Llanelwy), neu fe’u gadawyd yn wag ar ôl y Gwrthryfel (Llandaf), neu fe aethant â’u pen iddynt ar ôl y Diwygiad (yn enwedig Tŷ Ddewi).
  2. Hanesyddol. Plas yr Esgob Bangor yw’r unig Blas i Esgob sylweddol sydd wedi goroesi o’r cyfnod canoloesol hwyr yng Nghymru. Mae’r craidd canoloesol yn dal I ddylanwadu’n fawr ar y cynllun. Yr oedd yn dŷ preswyl parhaus gan Esgobion Bangor tan ganol yr ugeinfed ganrif. Ond cafwyd ychwanegiadau arwyddocaol ar ôl y Diwygiad.
  3. Deunyddiau adeiladu. Yn draddodiadol, cafwyd cyfnod o newid lle byddai preswylfeydd heb gaerau yn cael yn cael eu hadeiladu yn hytrach na plasau caerog a adeiladwyd o garreg. Mae Plas yr Esgob ym Mangor yn breswylfa heb gaerau a waned o bren cenhenid gogledd Cymru, er bod y pren bellach yn cael ei guddio yn bennaf. Yng nghyfnod hwyr y canoloesau, ffarfriwyd adeiladau gyda phren ac fe arweiniodd hyn at godi adeiladau ysblennydd yng Nghymru. Mae’n hysbys bod y Plas wedi cael to ysblennydd. At hynny, mae gan y Blas yr Esgob beth hawl mai ef yw’r adeilad domestig o ffrâm bren mwyaf sydd wedi goroesi yng Nghymru.
  4. Cynllun. Mae’r cynllun o ddiddordeb mawr. Mae’n blas gyda chynllun hierarchaidd. Roedd y mynediad i’r plas trwy’r porth i gyfeiriad de. Roedd ystafelloedd gweision/gweinyddu i’r dwyrain; a’r neuadd i’r gorllewin. Mae’r neuadd yn ‘neuadd ben’ gyda’r adain parlwr wedi’i gosod ar ongl sgwâr iddo.
  5. Dyddio. Plas yr Esgob yw’r adeilad hynaf sydd wedi’i dyddio o arysgrifiad yng Nghymru. Roedd yr arysgrifau dyddio yn agwedd ffasiynol o ddiwylliant y Dadeni ac mae’r adeiladau sydd wedi’u dyddio gynharaf yn rhai crefyddol. Cofnodwyd yr arysgrif C16 cynnar gan Browne Willis a chafodd ei ganfod at yr ystod gwaith i’r adeilad. Mae dyddio cylchoedd coed wedi dangos bod yr adain Ddwyreiniol wedi’i hadeiladu o bren wedi’i dorri yn 1546. Yn unigryw, cafodd Plas yr Esgob estyniad yn syth ar ôl y Diwygiad, ac fe ychwanegwyd ato’n ddiweddarach yn y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif at bymtheg.
  6. Cyfraniad i’r drefwedd. Dyma’r adeilad domestig hynaf a breswylwyd yn barhaus ym Mangor. Mae’n gysylltiad uniongyrchol â’r anheddiad canoloesol a sefydlwyd yng nghyffiniau’r eglwys gadeiriol.

 

Richard Suggett, RCAHMW,Aberystwyth.