JT Parry (Ap Idwal) (1853-1913): ‘YR ARLUNYDD A’I DDEUNYDDIAU’

Mae J.T. Parry yn ymddangos yn rhestrau’r cyfrifiad fel arlunydd / arlunydd tirluniau. Felly, roedd un ai yn gwerthu digon o’i waith i ennill bywoliaeth resymol a chynnal teulu neu cefnogwyd ei waith celf gan gyflogaeth arall. Daw ei weithiau dyddiedig hysbys o’r 1880au hyd at ei farwolaeth, ond mae’r ysbrydoliaeth i ddarlunio Plasty Coetmor yn deillio o’r amser cyn ei ddymchwel yn 1870. Nid ef yw’r unig arlunydd oedd yn gweithio yn yr ardal neu a fabwysiadodd ffugenw Cymraeg i arwyddo ei weithiau; mae Peter Lord wedi dogfennu llawer o’r arlunwyr cyfoes teithiol a medrus yng ngogledd Cymru fel William Roos a Hugh Hughes yn ei astudiaethau. Artist arall ‘heb ei hyfforddi’, oedd J.J. Dodd oedd yn gweithio ym Mangor, fu’n arddangos ei waith yn Arddangosfa’r Celfyddydau Cain a Diwydiannol yn Neuadd Penrhyn (1869) ac fel ‘Arlunydd Gwalia’ yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor (1874). Yn yr 1880au, roedd gan y gŵr mentrus Hugh Humphreys, Oriel Celf Gain yng Nghaernarfon oedd yn gwerthu printiau poblogaidd o bortreadau a golygfeydd yng ngogledd Cymru gan artistiaid amrywiol, ac ef ei hun.

Ymddengys bod Parry wedi defnyddio paent olew yn ei yrfa gynnar fel arlunydd – weithiau ar lechi, efallai ar gyfer y ffatri lle tân llechi ‘marmor’ ym Mangor. Mae’r deunyddiau a ddefnyddiodd yn llawer o’i waith diweddarach, paent hydawdd dŵr ar bapur, o ansawdd gwael ar y cyfan. Mae gan lawer o’r darluniau hyn liw brown neu frown cochlyd oherwydd natur asidig iawn ei bapur neu’r byrddau cefn, a’r cyswllt gyda golau’r haul dros nifer o flynyddoedd. Y paent a ddefnyddiodd, yn ogystal â dyfrlliw tryloyw, oedd gouache, gyda sylfaen sialc gwyn afloyw gydag arlliw o bigmentau o liwiau amrywiol. Ar ben hynny, ychydig iawn o rwymwr sydd ynddo (gwm neu gyfrwng resinaidd arall), felly gellir ei smwtsio neu ei olchi i ffwrdd yn hawdd â dŵr. Ei fantais yw y gellir gwneud addasiadau yn hawdd neu beintio dros gamgymeriadau.

Yn ddieithriad darganfuwyd testunau ei luniau yn Nyffryn Ogwen, ac er iddo ddechrau bywyd fel gweithiwr chwarel fe osgôdd y tomenni llechi neu dystiolaeth arall o chwarel Penrhyn fel pwnc. Fodd bynnag mae paentiad olew mawr hynod o’r chwarel weithiol, ddyddiedig 1895 – yn darlunio’r ponciau a’r ‘Talcen Mawr’ canolog, piler anferth o graig folcanig a’i ffrwydrodd yn Ebrill 1895.

Yn gyffredinol, roedd yn well ganddo, neu roedd yn gallu gwerthu, golygfeydd o fynyddoedd ac afon Ogwen, yn hytrach na therasau, strydoedd neu fywyd prysur Bethesda – ond yn aml iawn mae ffigur bach, pysgotwr efallai, yn cael ei roi fel presenoldeb dynol, yn y pellter canol. Yn nhestun y chwarel hyd yn oed nid oes ond ychydig ffigurau unig wrth waith. Weithiau, roedd yn peintio adeilad adnabyddus: Plas Coetmor, Nant-y-tŷ, neu’r ffug-‘Castell’ ym Mharc Meurig. Cyflwynir ei ddelweddau traddodiadol o Eryri mewn fframiau pren goreurog neu bren tywyll – yn aml mewn parau. Os aeth ei waith yn amhoblogaidd yn ddiweddarach yn ei fywyd, roedd hynny o bosibl oherwydd argaeledd delweddau ffotograffig a newidiadau mewn chwaeth.

Mae enghreifftiau o’i waith wedi goroesi gan nad ydynt wedi cael eu disodli, a’u bod wedi eu cadw mewn cartrefi yn lleol i atgoffa pobl am berthnasau ymadawedig; neu os llwyddodd y lluniau i oroesi wrth glirio ac adnewyddu tai, roeddent weithiau’n cael eu rhoi i’w cadw mewn llofftydd, atigau neu dai allan. Diolch i’r drefn mae rhai yn cael eu hail-werthuso fel lluniau sy’n ein hatgoffa o Ddyffryn Ogwen ‘heb ei ddifetha’.

Jeremy Yates, 2021