Karel Lek (1929 – 2020)

Ganed Karel Lek yn Antwerp, Gwlad Belg yn 1929 ond symudodd gyda’i rieni i ogledd Cymru fel ffoadur pan oedd yn fachgen ifanc.  Astudiodd Karel yng Ngholeg Celf Lerpwl, 1946-1952.  Ymhlith ei athrawon nodedig roedd Karel Vogel a Geoffrey Wedgwood.

Dywedodd Lek bod “fy ngwlad enedigol, o ran fy modd o fynegiant, sy’n emosiynol,” yn bwysig i’w gynnyrch. “Rydw i’n ymwneud â dynoliaeth. Rydw i’n aml iawn yn gweld harddwch yn yr hyn sy’n aml yn cael ei esgeuluso.” Roedd Karel yn ystyried y strydoedd fel ei stiwdio ac roedd llyfr braslunio ganddo bob amser.  Roedd yn dal cipluniau o bobl ac uniongyrchedd yr argraffiadau darfodedig yr oeddent yn eu creu.  “Pe bai pobl eraill yn ceisio crynhoi fy ngwaith, dwi’n gobeithio y byddai’r geiriau ‘tosturi a gonestrwydd’ yn ymddangos yn rhywle.”

Roedd Lek yn aelod o’r Academi Frenhinol Gymreig (RCA) ers 1954.  Bu’n arddangos ar draws gogledd Cymru yn ogystal ag yn Llundain, Amsterdam a Chicago.  Mae ei waith mewn casgliadau preifat a chyhoeddus, gan gynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.

Am rhagor o wybodaeth am yr arddangosfa, cliciwch yma.