Siop


Siop Storiel

Rydym yn gwerthu pethau unigryw – gemwaith, nwyddau i’r cartref, crochenwaith, deunyddiau ysgrifennu a llawer rhagor.

Hefyd ar gael yn Storiel mae casgliad o lyfrau ar hanes lleol, printiau, cerdyn post a tegannau traddodiaol.

Ewch i’n tudalen instagram i gael diweddariadau a stoc newydd https://www.instagram.com/siopstorielshop/

Tocynnau Anrheg

Mae tocynnau anrheg Storiel gwerth £10, £20 and £50 ar gael.

TOCYNNAU ANRHEG – TELERAU AC AMODAU

Amodau defnyddio:

  1. Gellir cyfnewid y tocyn hwn yn Storiel neu Gaffi Storiel.
  2. Rhaid cyfnewid y tocyn hwn am nwyddau o’r un gwerth ag ef neu fel taliad rhannol am nwyddau sy’n costio mwy na’r swm a nodir arno. Ni ellir cyfnewid y tocyn hwn am arian ac ni roddir newid os caiff ei gyfnewid am nwyddau sy’n costio llai na’r swm a nodir arno.
  3. Ni ellir cyfnewid Tocynnau Anrheg am arian.
  4. Gellir defnyddio mwy nag un Tocyn Anrheg ar yr un pryd hyd at werth y nwyddau a brynir.
  5. Bydd Tocynnau Anrheg yn darfod 12 mis ar ôl dyddiad eu prynu. Bydd Tocynnau Anrheg a gyflwynir ar ôl y dyddiad darfod yn ddi-werth, ni fydd modd eu cyfnewid ac ni roddir ad-daliad amdanynt.
  6. Mae Storiel yn cadw’r hawl i wrthod derbyn Tocyn Anrheg os credir bod rhywun wedi ymyrryd ag ef, ei gopïo, ei ddifrodi neu os credir bod bwriad i’w ddefnyddio i dwyllo mewn ffordd arall.
  7. Ni fydd Storiel na Chyngor Gwynedd yn atebol os bydd tocynnau’n cael eu colli, eu difrodi neu eu dwyn.