Studio Cybi

Lapiwch o a’i werthu yn ôl i fi

Head 1962 (Study for Dying King Sculpture) gan Elisabeth Frink 

Head 1962 (Study for Dying King Sculpture) | Gwaith Celf (celfarycyd.cymru)

Mae Studio Cybi yn aml yn archwilio syniadau am berchnogaeth, llafur a thlodi, trwy hanes tir. Mae’r gwaith hwn yn rhoi cyfle perffaith iddynt ymchwilio ymhellach eu meddyliau ar gelf, asiantaeth ac ecwiti, gan dynnu o gysyniad Spinoza o gydgysylltiad.  Mae ganddynt ddiddordeb ar hyn o bryd mewn llofnodwyr diwylliannol tanddaearol, amgen.  Mae’r comisiwn yn gofyn cwestiynau ynghylch iaith, imperialaeth, brenhiniaeth, perchnogaeth tir a gwrthdaro gan dynnu sylw at bwysigrwydd ymgysylltu â phwy ydym ni o fewn fframweithiau cymdeithasol sydd yn symud yn gyson. Mae’r bathodynnau protest sy’n cael eu harddangos yn Storiel yn agor ffenestr i’n hanes diwylliannol, iaith a’n hangen am brotest. Mae Dying King gan Frink yn gweithredu fel braslun rhagarweiniol ar gyfer cerflun, gan dynnu ysbrydoliaeth o archdeipiau sy’n ymwneud â gwrywdod a brenhiniaeth.  O’r elfennau yma mae Studio Cybi wedi creu baner tecstil sydd wedi ei ffilmio yn hongian yng Ngwarchodfa Natur Penrhos.  Mae’r sain yn cynnwys can adar sydd wedi ei altro a’i recordio gyda cherdd.

Ewch i wefan studio.cybi am rhagor o wybodaeth am y comisiwn.