Yn ystod ein Hanner Tymor Hanesyddol, bu cyfle i’n ymwelwyr addurno llechi  tra’n darganfod mwy am ein casgliad o lechi cerfiedig. Roedd cyfle hefyd i’r plant arbrofi gwneud lluniau ar hen lechi ysgol a’n byrddau sialc ar  y wal, ac yna  ymuno yn ein helfa ddraig.

Byddem yn ychwanegu delweddau i’r Oriel yma drwy’r wythnos.