Mae Storiel yn ail agor ei ddrysau!

 

Bydd eich ymweliad ychydig yn wahanol, er enghraifft bydd angen archebu slot i ymweld â’r Orielau, ond bydd modd cymryd eich tro os am ymweld a’r siop yn unig.

Yn ychwanegol at yr arddangosfeydd parhaol, mae llu o arddangosfeydd newydd sbon i’w gweld, CLICIWCH YMA am restr llawn, a llond siop o stoc newydd gan gynhyrchwyr ac artistiaid lleol.

O’r 18fed Tachwedd bydd posib ymweld â Storiel rhwng 11 a 4, Ddydd Mercher – Sadwrn

I archebu slot cliciwch yma; SYSTEM ARCHEBU neu ffoniwch Storiel yn ystod oriau agor.

 

Am fwy o wybodaeth neu os oes gennych gwestiwn, gallwch gysylltu â ni [email protected] neu 01248353368 yn ystod oriau agor.

 

Edrychwn ymlaen i’ch croesawu!