Drwy lens celf a hanes, cewch ddarganfod sut daethpwyd â phlanhigion gardd i’r DU o bob cwr o’r byd i’w tyfu fel planhigion addurnol mewn gerddi. Cyfle i archwilio sut gall gadael iddyn nhw ddianc o’n gerddi ni yn yr oes fodern fod yn niweidiol i fyd natur a sut gallwn ni weithio gyda’n gilydd i warchod byd natur rhag rhywogaethau ymledol.

I ddilyn y sgwrs yma bydd cyfle am daith fer o amgylch ein harddangosfa gysylltiedig: Tu Hwnt i’r Ffin: Dianc o Eerddi  i bawb sydd â diddordeb.

Bydd y sgwrs yn Saesneg, er bod yr arddangosfa yn y Gymraeg a’r Saesneg. Bydd staff ar gael ar y diwrnod i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi am yr arddangosfa.

Cofiwch y byddwn yn tynnu lluniau o’r digwyddiad efallai. Os nad ydych chi eisiau i ni dynnu eich llun, rhowch wybod i aelod o staff ar y diwrnod a byddwn yn hapus i sicrhau hynny.

Rhan o’r Wythnos Rhywogaethau Ymledol. Mae’r prosiect Dihangwyr Gerddi yn Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru wedi cael ei gyllido gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur. Mae’n cael ei gyflwyno gan y Gronfa Dreftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru.

Archebwch YMA