Paentiadau, Darluniau, Printiau a Lluniau

o Gasgliad Prifysgol Aberystwyth

 

Ganwyd Bert Isaac, peintiwr, darlunydd, gwneuthurwr printiau ac athro celf ysbrydoledig, ym Mhontypridd yn 1923. Dan anogaeth ei athrawon ysgol, astudiodd gelf yng Nghaerdydd rhwng 1940-44, lle y daeth o dan ddylanwad artistiaid Neo Ramantaidd fel Graham Sutherland, John Piper a Paul Nash. Roedd yn dirluniwr toreithiog, a ganolbwyntiai’n bennaf ar leoedd lle’r oedd tystiolaeth o weithgarwch dynol a diwydiant yn y gorffennol, gan gynnwys Chwarel Dorothea. Dychwelodd i rai o’r lleoedd hyn yn aml, gan gofnodi treigl amser a’r ffordd yr oedd natur yn ailfeddiannu’r dirwedd.

Mae’r arddangosfa hon yn ddetholiad o’r 176 o weithiau Bert Isaac a gyflwynwyd yn rhodd i’r Ysgol Gelf, Aberystwyth gan ei wraig, Joan Isaac, a’i ferch, Dr Susan Pochron, yn 2017.