A yw Amgueddfeydd yn adlewyrchu’r hyn sy’n digwydd o fewn y gymdeithas?
A ydynt yn rhoi adlewyrchiad cywir o faterion pwysig yn ymwneud â hunaniaeth bersonol, rhywedd, gwahaniaethu, a newid gwleidyddol a chymdeithasol?
Sut caiff ‘heddiw’ ei ddylanwadu gan y gorffennol?

Sefydlwyd casgliad Storiel ar ddiwedd y 19 ganrif – dros 130 o flynyddoedd yn ôl – i gasglu eitemau ynghyd a oedd yn ymwneud â hanes Gogledd Cymru. Yn ystod y degawdau diwethaf, bu ymwybyddiaeth gynyddol o ‘faterion rhyweddol’ o bob math – o ffeministiaeth a chyflogau cyfartal i hawliau hoywon. Mae pynciau cynnar, fel y mudiad i ennill yr hawl i bleidlais i ferched, wedi derbyn sylw cynhwysfawr gan amgueddfeydd, ond megis dechrau mae’r gwaith o fynd i’r afael â newidiadau cymdeithasol diweddar a hanesion cudd. Mae gan amgueddfeydd mawr yn Brighton a Lerpwl brosiectau sy’n archwilio cymunedau LHDTQ+ (Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsrywiol), a’r modd y mae eu hanesion wedi eu hanwybyddu neu eu cam-gynrychioli mewn perthynas â’u casgliadau parhaol.

Mae’r arddangosfa hon yn bwrw golwg dros bynciau tebyg yng nghasgliadau Storiel.