Rydym yn dal i ddatblygu ein casgliadau yma yn STORIEL ac yn casglu creiriau sydd yn ein cynorthwyo i ddehongli a deall hanes a diwylliant Gwynedd a’i phobl. Mae’r Amgueddfa yn dibynnu ar greiriau sydd yn cael eu rhoi yn hael gan aelodau o’r cyhoedd. Mae’r arddangosfa yma yn arddangos detholiad o’r creiriau sydd wedi cael eu hychwanegu i gasgliad STORIEL yn ddiweddar. Os ydych yn credu bod gennych rywbeth yr hoffech ei roi i’r amgueddfa, cysylltwch â’n Swyddog Casgliadau, Helen Gwerfyl drwy ffôn 01248 353368 neu ebost [email protected] fel man cychwyn.
Efallai byddai gennych ddiddordeb yn
Toria Cameron
04 July - 19 September 2026Mae Toria Cameron yn artist gweledol lle mae ei hymarfer yn pontio crefft tecstilau cyfoes a chelf gain. Wedi'i hysbrydoli gan dirwedd Cymru, mae'n archwilio syniadau am le, perthyn a chynefin - y cysylltiad dwfn rhwng pobl a'u hamgylchedd.
Gweithgareddau i Blant
21 July - 29 August 2026Gweithgareddau galw heibio i'r teulu yn ystod y gwyliau haf!
Corlannau’r Carneddau
10 September 2026Mae dros 3,000 o corlannau defaid ar draws gogledd-orllewin Cymru, ond dim ond tua 100 ohonynt sydd yn gorlannau cymunedol mawr y mae ffermwyr wedi'u defnyddio i ddosbarthu'r llwyth o ddefaid sy'n pori ar y mynyddoedd dros yr haf. Mae'r sgwrs hon yn edrych ar sut mae'r corlannau mawr hyn yn gweithio, pryd, pam a ble y codwyd hwy a sut maent yn ffitio i hanes a diwylliant ffermio mynyddoedd Cymru - ac hefyd sut y maent yn gysylltiedig ag ynys oddi ar arfordir Croatia. Mae llawer ohonynt bellach yn ddirywio a adfeilio ond byddwn yn gorffen y sgwrs trwy weld sut y defnyddir rhai ohonynt hyd heddiw, gan barhau'r patrwm a'r rhythm o gasglu defaid o'r mynyddoedd sydd wedi mynd yn ôl dros 300 mlynedd.