Mae’r arddangosfa hon yn dangos rhai o’r gwrthrychau a dderbyniwyd i gasgliad STORIEL yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf. Mae’r dewis o eitemau yn adlewyrchu stori Gwynedd a’i chymunedau amrywiol gyda’i haenau niferus o hanes, economi, diwylliant a threftadaeth.

Mae’r Amgueddfa wedi bod yn casglu ers 1884 pan oedd yn rhan o Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, bellach yn Brifysgol Bangor. Mae STORIEL yn parhau i ychwanegu at y casgliad gan ein galluogi i ddehongli a deall stori gyflawn Gwynedd a’i phobl a sicrhau y bydd yn parhau yn berthnasol i genedlaethau’r dyfodol.

Mae casgliad yr amgueddfa rhan amlaf yn ddibynnol ar dderbyn eitemau, a’r storïau a ddaw gyda hwy, yn rhoddion hael gan aelodau o’r cyhoedd.

Ein prif feysydd o sylw yw:

HANES CYMDEITHASOL: I gofnodi ac adlewyrchu ar fywyd pob dydd ardal Gwynedd a’i chymunedau, yn enwedig eitemau sydd ar hyn o bryd yn cael eu tangynrychioli, megis gwrthrychau o’r ugeinfed ganrif.

ARCHAEOLEG: Mae cytundeb gydag Ymddiriedolaeth Archaeoleg Gwynedd i sicrhau bod deunydd archeolegol a gaiff ei gloddio yng Ngwynedd yn cael ei roi yn Storiel.

TECSTILAU: Eitemau sydd â chyswllt i unigolion penodol, cymdeithasau a digwyddiadau ynghyd a gwrthrychau a fyddai’n ymestyn y casgliad presennol o wisgoedd Cymreig a thecstilau sy’n berthnasol i Wynedd.

CELF GAIN ac ADDURNIADOL: Gwrthrychau sydd â pherthnasedd penodol i’r ardal a fyddai, er enghraifft, yn darlunio golygfa leol, unigolyn neu grŵp, neu a gafwyd ei gynhyrchu yn lleol.

DODREFN: Yn gyffredinol nid oes ychwanegu i’r casgliad hwn oherwydd cyfyngiadau i arddangos neu i gadw. Gall eitem sydd yn esiampl eithriadol ac a chyswllt i Wynedd, neu os byddai yn llenwi bwlch amlwg yn y casgliad, gael ei gysidro.

Mae llawer mwy i’w ddarganfod am stori Gwynedd yn ein horielau tymor hir sy’n edrych ar . . .

Ein Casgliadau, Bywyd a Gwaith, a Chysylltiadau.

 

Dysgwch fwy – 

Telyn, 1854, o Glynllifon

CRAIR Y MIS – Medi 2021

https://collections.storiel.cymru/telyn-1854-o-glynllifon/?lang=cy

 

Portread o George Harry Sharpe (1862-1879), llun olew

CRAIR Y MIS – Hydref 2021

https://collections.storiel.cymru/portread-o-george-harry-sharpe-llun-olew/?lang=cy

 

Cot Dyffl

CRAIR Y MIS – Tachwedd 2021

https://collections.storiel.cymru/cot-dyffl/?lang=cy

 

Dodrefn Dol Ratan

CRAIR Y MIS – Rhagfyr 2021

https://collections.storiel.cymru/dodrefn-dol-ratan/?lang=cy

 

Os feddyliwch fod gennych unrhyw beth yr hoffech roi i’r amgueddfa, a fyddech mor garedig a chysylltu â’r Swyddog Casgliadau.

rhif ffôn: 01248 353368

e-bost: [email protected]