Mae’r Celf Agored yn arddangosfa flynyddol sy’n agored i artistiaid a myfyrwyr 16 oed a hŷn sy’n byw neu’n gweithio yng Nghymru. I ddathlu Storiel yn ddeg oed yn 2026 bydd yr arddangosfa yn cael ei gynnal yn y prif oriel eleni, gyda wobr o £1000 i enillydd Gwobr y Detholwr. Y Beirniad Gwadd oedd Kim Atkinson, a fu’n dethol ynghyd â Jeremy Yates. Eleni mae 112 o weithiau celf gan 81 o artistiaid. Cynrychiolir pob cyfrwng; cerfluniau, ffilm, ffotograffiaeth, paentio, lluniadu, collage, tecstilau a mwy. Mae’r arddangosfa yn ddathliad lliwgar, bywiog o greadigrwydd.
Cofiwch bleidleisio am enillydd ‘Gwobr Dewis y Bobl’, bydd yr enillydd yn derbyn siec o £150, wedi gyflwyno yn garedig gan Gyfeillion Storiel.