Darluniadau bywgraffiadol. Gwaith diweddar gan yr arlunydd Bangor-anedig, Staffan Jones-Hughes. Bydd yr arddangosfa’n datblygu dros y cyfnod gan ychwanegu gwaith newydd.
Efallai byddai gennych ddiddordeb yn

Sgyrsiau Storiel ar thema “Heddwch”
02 - 23 May 2025Dewch i ymuno â ni ar gyfer cyfres arbennig o sgyrsiau prynhawn dydd Gwener sy’n archwilio thema heddwch, wedi’u hysbrydoli gan etifeddiaeth bwerus Deiseb Heddwch Merched Cymru 1923–24. Trefnir y sgyrsiau gan Gyfeillion Storiel, ac mae pob un yn cynnig safbwynt unigryw ar rôl merched mewn mudiadau heddwch, gweithredu cymdeithasol a hanesion sydd wedi mynd ar goll yn aml.

Yr Apêl Heddiw: Parhau A’r Daith at Heddwch
14 June 2025Ymunwch â ni yn Storiel ar gyfer diwrnod o Heddwch — diwrnod o greadigrwydd a myfyrdod wedi’i ysbrydoli gan Ddeiseb Heddwch y Merched. Bydd y bore yn cynnwys gweithdy gwnïo gyda’r artist Bethan Hughes, lle byddwn yn creu amlenni symbolaidd o heddwch, ac yn y prynhawn cawn ymuno â Linda Rogers a Carrie Pester ar gyfer sesiwn addfwyn a myfyriol i rannu, trafod a pharhau â’r daith tuag at heddwch. Dewch â’ch cinio eich hun, a bydd coffi a chacennau ar gael i’w prynu yn y caffi os hoffech chi rywbeth melys. Cynhelir y digwyddiad yn bennaf yn Saesneg gyda rhywfaint o Gymraeg, ac mae’n rhad ac am ddim i fynychu.

Sesiynau Cerddoriaeth LLIFT
26 July - 25 October 2025Mae LLiFT yn grŵp cymunedol cynhwysol sy’n rhoi’r cyfle i unigolion chwarae neu brofi cerddoriaeth ensemble fyrfyfyr yn rhydd yn rheolaidd ym Mangor, Gogledd Cymru ac i archwilio dulliau rhyngddisgyblaethol ehangach o wneud cerddoriaeth arbrofol.