Ar ôl i dîm Pêl-droed Cenedlaethol Cymru gyrraedd dwy gystadleuaeth Ewros yn olynol, un peth oedd yn weddill i’r tîm o chwaraewyr presennol gyflawni, oedd camu ar y llwyfan rhyngwladol wrth gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd. Ym mis Mehefin, mewn camp aruthrol, sicrhaodd tîm Cymru eu lle yng Nghwpan y Byd 2022 a hefyd, yn sgil hyn, yn y llyfrau hanes unwaith ac am byth.

Mae 64 o flynyddoedd ers i Gymru gystadlu ddiwethaf yn y rowndiau terfynol, pan gurodd tîm Jimmy Murphy Israel yn y gêm ail gyfle a chyrraedd mor bell â’r wyth olaf yn Sweden yn 1958. Hyd yn oed ar ôl colli John Charles drwy anaf, un o chwaraewyr gorau’r byd ar y pryd, chwaraeodd Cymru yn llawn cymeriad yn erbyn Brasil yn y gêm gogynderfynol gan golli o un gôl gan Pelé, a oedd yn fachgen 17 ar y pryd. Mae Cymru wedi dod yn agos mwy nag unwaith, ond degawdau o dor-calon sydd wedi bod ers hynny nes i Gareth Bale a gweddill ‘sêr y genhedlaeth aur’ dorri’r felltith eleni.

Mae Cwpan y Byd yn cael ei chwarae yn Qatar rhwng 21 Tachwedd a 18 Rhagfyr 2022. Gyda gwres llethol yno yn yr haf dyma’r tro cyntaf i’r gystadleuaeth gael ei chynnal yn ystod y gaeaf.

Mae STORIEL yn ymuno â’r dathlu sydd dros Gymru gyfan drwy arddangos ychydig o drysorau ar fenthyg gan rhai o aelodau lleol ‘Y Wal Goch’ a rhai eitemau arbennig o gasgliad Amgueddfa Wrecsam. Rydym yn estyn ein diolch iddynt am rannu’r eitemau hyn gyda’r cyhoedd am gyfnod yn STORIEL. Hefyd gwelir printiau Cyfres Gyfyngedig o baentiadau gwreiddiol gan Owain Fôn Williams, hyfforddwr gôl-geidwaid a chyn gôl-geidwad proffesiynol.